Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydedd Pen-blwydd y Brenin ar gyfer academydd i gydnabod ei wasanaethau i wrth-hiliaeth

1 Gorffennaf 2024

Cardiff University Main Building
Cardiff University Main Building

Cydnabuwyd academydd o Brifysgol Caerdydd am ei wasanaethau i gefndiroedd ethnig leiafrifol a gwrth-hiliaeth.

Enwyd yr Athro Emmanuel Ogbonna yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin, gan ei urddo’n Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE).

Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil mae meysydd diwylliant sefydliadol, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth. Yn ei waith, mae wedi ymchwilio i faes hilioli ym marchnad lafur y DU a'r ffyrdd y mae hyn yn effeithio ar grwpiau Du ac ethnig leiafrifol.

Ar ôl dal nifer o rolau gweinidogol, bu’n cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ac ar hyn o bryd mae'n arwain ar y gwaith o’i roi ar waith yn rhinwedd ei waith yn gyd-gadeirydd grŵp atebolrwydd allanol Llywodraeth Cymru. Bu hefyd yn ymchwilio i effaith y pandemig ac yntau’n aelod o Grŵp Cynghori COVID-19 ar Gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol Prif Weinidog Cymru a Chadeirydd yr is-grŵp economaidd-gymdeithasol ar COVID-19.

Dyma a ddywedodd yr Athro Ogbonna sy'n gweithio yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Pan ddechreuais i ymchwilio i rôl hil wrth ddylanwadu ar ddeilliannau sefydliadol a chymdeithasol ddechrau'r 1990au, doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai fy ngwaith un diwrnod yn cyfrannu at y newidiadau mor drawsnewidiol sy’n rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

"Rwy’n hynod o ddyledus i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar hyd y daith hon.  Rwy'n arbennig o ddyledus i fy ngwraig a fy nheulu, y Brifysgol, y llu o fyfyrwyr doethurol a’r partneriaid ymchwil, fy nghyd-gadeiryddion, aelodau o'r Grŵp Llywio a oedd wedi cynorthwyo wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'r Grŵp Atebolrwydd Allanol sydd wrthi’n arwain y gwaith o’i roi ar waith."

Ymhlith cyn-fyfyrwyr eraill Prifysgol Caerdydd i dderbyn anrhydedd y mae’r cyn-Ddirprwy Is-ganghellor, yr Athro Karen Holford, sydd wedi ei hurddo’n Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) am ei gwasanaethau i fyd peirianneg.

Urddwyd cyn-Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Elizabeth Treasure, yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am ei gwasanaethau i fyd addysg uwch.

Mae'r Athro Rhian Mair Fenn, rhiwmatolegydd ymgynghorol er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaethau i addysg feddygol drwy ei hurddo’n Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE).

Mae Sabrina Cohen-Hatton, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sussex, cymrawd er anrhydedd ac athro ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn Medal Gwasanaeth Tân y Brenin.

Wrth sôn am yr anrhydeddau, dyma a ddywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner: "Llongyfarchiadau mawr i bawb o gymuned Prifysgol Caerdydd sydd wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin eleni. Peth hyfryd yw gweld cydnabod a dathlu’r enghreifftiau hyn o gyflawni ar lefel mor uchel ac mae hyn yn dyst i lefel yr ymroddiad a'r sgil a ddangoswyd gan yr unigolion hyn."

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.