Gwobr am wneud cyfraniad rhagorol i faes niwrowyddoniaeth
1 Gorffennaf 2024
Mae’r Athro Julie Williams, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill y wobr Cyfraniad Rhagorol i Faes Niwrowyddoniaeth gan Gymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain.
Mae’r wobr yn cydnabod cyfraniadau’r Athro Williams i faes geneteg, yn benodol ymchwil dementia a chlefyd Alzheimer, yn ogystal â’i hymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a meithrin ymchwilwyr y dyfodol.
Mae’r wobr yn cydnabod yr Athro Williams am ei gyrfa a’i chyfraniadau i faes niwrowyddoniaeth. Mae’n enetegydd blaenllaw, a hi yw cyn-Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru. Erbyn hyn, hi yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod yn y swydd hon ers i’r sefydliad gael ei sefydlu yn 2017. O dan ei harweinyddiaeth, mae’r gwyddonwyr yn y sefydliad wedi sicrhau datblygiadau hanfodol o ran deall geneteg a’r risg o ddatblygu clefyd Alzheimer a chlefydau niwroddirywiol eraill.
Cyd-arweiniodd yr Athro Williams brosiect cydweithredol rhyngwladol mawr o’r enw IGAP, sydd wedi arwain at nodi 100 o enynnau sy’n gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu clefyd Alzheimer, gan gynnwys tynnu sylw at sawl llwybr newydd yng nghyd-destun y clefyd. Arweiniodd y gwaith hefyd o ddatblygu IPMAR (IPSC Platform to Model Alzheimer’s Disease Risk) – menter sydd wedi creu banc o 120 meithriniad o fôn-gelloedd amlbotensial cymelledig er mwyn gwella’r broses o fodelu mathau cyffredin o glefyd Alzheimer. Ochr yn ochr â’i rôl yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU, yr Athro Williams oedd Prif Gynghorydd Gwyddonol Ymchwil Clefyd Alzheimer y DU. Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Academi’r Gwyddorau Meddygol ac yn un o’i hyrwyddwyr yng Nghymru.