Ewch i’r prif gynnwys

Graddedigion Prifysgol Caerdydd ymhlith graddedigion mwyaf cyflogadwy’r DU

27 Mehefin 2024

Graduates with red ceremony dress

Yn ôl data arolwg Hynt Graddedigion 2021/22, graddedigion Prifysgol Caerdydd yw rhai o’r graddedigion mwyaf cyflogadwy a’r graddedigion y mae cyflogwyr yn y DU yn chwilio amdanyn nhw fwyaf.

Yn ôl y data, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA):

  • Roedd 86% o raddedigion Prifysgol Caerdydd yn gweithio yn y DU ac mewn cyflogaeth hynod fedrus 15 mis ar ôl gorffen eu cwrs. Mae’r Brifysgol yn dal i fod yn gyntaf yng Nghymru ar gyfer y mesur hwn, ac mae ymhlith y 20 darparwr gorau yn y sector.
  • Roedd 91% o ôl-raddedigion amser llawn Prifysgol Caerdydd a oedd yn gweithio yn y DU mewn cyflogaeth hynod fedrus 15 mis ar ôl gorffen eu cwrs. Mae’r Brifysgol bellach yn gyntaf yng Nghymru ar gyfer y mesur hwn.
  • Roedd 83% o israddedigion amser llawn Prifysgol Caerdydd a oedd yn gweithio yn y DU mewn cyflogaeth hynod fedrus 15 mis ar ôl gorffen eu cwrs. Mae’r Brifysgol yn dal i fod yn gyntaf yng Nghymru ar gyfer y mesur hwn, ac mae ymhlith y 20 darparwr gorau yn y sector.
  • Roedd 95% o raddedigion Prifysgol Caerdydd mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach neu’n gwneud pethau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gorffen eu cwrs. Mae’r Brifysgol bellach yn gyntaf yng Nghymru ar gyfer y mesur hwn.

Dywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr: “Mae addysg ym Mhrifysgol Caerdydd yn fwy na dosbarthiad gradd. Rydyn ni’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr yn barod i gymryd y cam nesaf – p’un a yw hynny’n golygu ymuno â byd gwaith, astudio ymhellach neu wneud rhywbeth arall. Mae gennym ni gysylltiadau gwych â chyflogwyr, a thrwy’r broses o gynllunio a chyflwyno ein cwricwlwm, rydyn ni’n ceisio addysgu sgiliau fydd o gymorth i’n myfyrwyr ar ôl iddyn nhw raddio. Rydyn ni’n falch iawn o’r canlyniadau hyn, sy’n adlewyrchu ansawdd ein myfyrwyr a gwaith caled ein staff.”

Mae’r arolwg Hynt Graddedigion yn helpu pob myfyriwr graddedig i sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed ac yn ein helpu ni i ddeall pa yrfaoedd a llwybrau gyrfaol a ddewiswyd gan raddedigion diweddar. Dyma’r arolwg cymdeithasol mwyaf yn y DU sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn, ac mae’n un o’r mesurau sy’n gallu dangos a yw gradd y myfyriwr graddedig wedi’i helpu i sicrhau cyflogaeth hynod fedrus.

*Ffynhonnell: Canlyniadau arolwg Hynt Graddedigion 2021/22 a gyhoeddwyd gan HESA – cyhoeddir data agored HESA o dan drwydded (CC BY 4.0)

Rhannu’r stori hon

Rydym wedi datblygu nifer o lwybrau i’ch helpu chi i astudio at radd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.