RemakerSpace yn dathlu amrywiaeth drwy alluogi pobl i fod yn greadigol
27 Mehefin 2024
Yn ddiweddar, cynhaliodd RemakerSpace gyfres o weithdai creadigol er mwyn ymgysylltu â merched ifanc o grwpiau ethnig lleiafrifol a’u galluogi i fod yn artistig ac ail-bwrpasu tecstilau.
Mae RemakerSpace yn ganolfan ymgysylltu gymunedol, addysg a busnes wedi'i lleoli yn sbarc|spark, sef canolfan flaenllaw yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae’n canolbwyntio ar yr economi gylchol ac ymestyn cylch bywyd cynnyrch.
Dan arweiniad yr entrepreneur creadigol ac artist Sam Hussain, fe wnaeth y gweithdai a gynhaliwyd yn RemakerSpace annog y rhai a oedd yn bresennol i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, gyda phwyslais arbennig ar gelfyddydau Arabaidd a De Asiaidd, gan gynnwys Henna a Batik.
Meddai Sam Hussain: "Rhoddodd RemakerSpace gyfle i ferched ifanc ag anghenion ychwanegol ddod at ei gilydd ac ymarfer meddwlgarwch trwy gyfrwng Henna a Batik. Rhoddodd y gweithdai gyfle iddyn nhw fod yn greadigol ac ymarfer hunan-fynegiant wrth ymarfer sgiliau echddygol manwl a magu hyder wrth greu patrymau ar eu croen. Cymharon nhw eu prosesau creadigol wrth gysylltu â’i gilydd a chefnogi ei gilydd."
Ychwanegodd Sam: "Roedd rhai o'n cyfranogwyr yn fenywod amrywiol yn ethnig na fyddai fel arfer yn gallu dod i ddigwyddiadau yn RemakerSpace a sbarc|spark oherwydd ymrwymiadau teuluol a lle'r oedden nhw yn eu bywydau. Roedd hwn yn gyfle gwych iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n gallu cysylltu â'r lle a'r bobl oedd yn rhan o'r gweithdai."
Chwaraeodd Dr Anna Skeels, Cymrawd Ymchwil yn sbarc|spark, ran allweddol wrth sefydlu’r gweithdai trwy gysylltu RemakerSpace gyda'r artist Sam Hussain. Mae Sam yn un o bedwar artist sy'n gweithio gyda'i gilydd ar y prosiect 'Rekindle and Inspire' sy'n canolbwyntio ar les ac iechyd meddwl artistiaid a’r gymuned.
Sefydlwyd RemakerSpace gyda chefnogaeth Cronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, a chyfraniad sylweddol gan Ysgol Busnes Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am y modd y mae RemakerSpace yn cynorthwyo grwpiau cymunedol, sefydliadau addysgol a busnesau, cysylltwch â Rebecca Travers, rheolwr y ganolfan.