Ewch i’r prif gynnwys

Afonydd Cymru’n cynnig tystiolaeth ar gyfer monitro afonydd yn fwy effeithiol

24 Mehefin 2024

River

Sefydlu sylfaen ar gyfer cludo eDNA afonol

Cafodd Afon Conwy yng ngogledd Cymru ei harolygu gan wyddonwyr i ganfod gwybodaeth enetig newydd i’w defnyddio i fonitro afonydd dŵr croyw ledled y byd. Bu sefydliadau lluosog wrth y gwaith, o dan arweiniad Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig. Caiff ei gyhoeddi yn Nature Communications.

Mae gweithgareddau dynol fel y newid yn yr hinsawdd ac addasu cynefinoedd yn peri bod poblogaethau o rywogaethau dŵr croyw’n dirywio ledled y byd. Felly mae angen i gadwraethwyr a gwyddonwyr gynnal arolygon ecolegol sylfaenol, er mwyn monitro a gwella'r amgylcheddau hynny, ond mae dulliau traddodiadol o gynnal arolygon dŵr croyw’n dibynnu ar arbenigedd unigol a gallant gymryd cryn amser.

Gall samplu’r dŵr a’r gwaddodion am DNA hybrin gynnig dealltwriaeth ddyfnach o lawer inni o’r rhywogaethau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd hwnnw. Gall DNA amgylcheddol, neu eDNA ddatgelu presenoldeb rhywogaethau sy’n rhy fach i’w gweld â’r llygaid dynol a gall ganfod anifeiliaid a phryfed mwy o faint a fu’n symud drwy’r gofod hwnnw, gan gynnwys eogiaid a larfâu gwas y neidr, oherwydd y darnau bach iawn o DNA maent yn eu gadael ar eu hôl yn yr amgylchedd.

Mae dadansoddiadau eDNA eisoes yn cael eu defnyddio mewn llynnoedd ac yn y môr. Er mwyn eu defnyddio'n effeithiol mewn afonydd, roedd angen datrys un cwestiwn - pa mor bell i waered afon mae eDNA yn teithio cyn iddo fynd yn ddisylw?

Trwy samplu dwys ar Afon Conwy a chymharu’r data canlyniadol gydag afonydd cymharus eraill yng Nghymru (Tywi), Lloegr (Gwash), y Swistir (Glatt) ac UDA (Skaneateles), atebodd y tîm o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham ac UKCEH y cwestiwn.

Datgelodd y gwaith nad yw eDNA yn goroesi fawr ddim y tu hwnt i gilometr i waered afon. Felly gall ecolegwyr fod yn sicr bod y rhywogaethau sydd mewn sampl eDNA yn gynrychioliadol o ble y cymerwyd sampl y dŵr, ac nid o gynefinoedd lawer cilometr i fyny'r afon.

Dywedodd Dr William Perry, Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd ac awdur arweiniol yr astudiaeth,

"Mae canlyniadau'r papur hwn yn ei gwneud hi'n bosibl i ecolegwyr ac eraill ddechrau defnyddio arolygon eDNA yn fwy hyderus mewn afonydd ledled y byd. Mae’n dangos ei bod yn bosib cael data cynhwysfawr ynglŷn â’r organebau sydd yn ein hafonydd, sy’n rhoi cyfle teg inni atal yr effeithiau niweidiol a achosir gan weithgarwch dynol."

Dr William Perry Research Associate

Dywedodd yr Athro Simon Creer, arweinydd Grŵp Esblygiad ac Ecoleg Foleciwlaidd Prifysgol Bangor a chydlynydd grant Amlygu Pwnc Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a fu’n arwain y consortiwm,

“Yr unig ffordd i ddeall taith a dyfalbarhad eDNA mewn ecosystemau go iawn yn llawn oedd cynnal y math yma o astudiaeth - samplu tacsa yn rheolaidd o bob rhan o’r goeden fywyd, o feintiau gofodol lluosog ac ar amseroedd mynych ledled y cylch blynyddol. Mae ein canlyniadau’n datgelu’r berthynas rhwng olion eDNA a’r miloedd o anifeiliaid sy’n byw yn ecosystemau afonydd y byd, a dilysu’r defnydd o ddadansoddiadau eDNA afonol i asesu bioamrywiaeth ar lefel yr ecosystem”.

Dywedodd yr Athro Jack Cosby, biogeogemegydd yn UKCEH a chyd-awdur y gwaith,

“Mae’r project yn amlygu pwysigrwydd cynyddol eDNA fel arf i astudio prosesau ecolegol, biogeogemegol a hydrolegol o faint genynnau hyd at faint tirwedd. Mae dulliau integredig o’r fath o gynnal ymchwil amgylcheddol yn cynnig dealltwriaeth gyfannol inni o ran sut mae pwysau’n dylanwadu ar adnoddau naturiol ac yn helpu llywio arferion polisi a rheolaeth i’w hamddiffyn.”

Rhannu’r stori hon

Dyfodol monitro ar gyfer iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd