Daeth digwyddiadau Mehefin â hwyl a chreadigrwydd i'r gymuned
26 Mehefin 2024
Daeth digwyddiadau Mehefin â hwyl a chreadigrwydd i'r gymuned
Mae staff o Sefydliad Confucius Caerdydd (CCI) wedi bod yn brysur y mis hwn yn cyflwyno digwyddiadau o fewn y gymuned.
Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol Tsieineaidd – Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – Dydd Sadwrn Mehefin 8
Ar Ddydd Sadwrn 8 Mehefin, bu staff o'r Sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i gyflwyno Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol Tsieineaidd. Denodd y digwyddiad dros 5,500 o ymwelwyr ac roedd yn cynnwys mwy na 100 o wirfoddolwyr a staff. Roedd y gweithgareddau a'r adnoddau diwylliannol a ddarparwyd yn uchafbwyntiau ar y dydd ac yn cyfoethogi'r profiad i bawb oedd yn bresennol. Gwyliwch fideo o'r digwyddiad ar YouTube.
Dywedodd yr Athro Guoxiang Xia, Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Confucius Caerdydd: "Roedden ni’n falch iawn o ymgysylltu â chymaint o ymwelwyr a'u gweld yn mwynhau ein gweithgareddau a'n perfformiadau Tsieineaidd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd rhai o'r rhai y buom yn siarad gyda nhw hefyd yn cael eu hysbrydoli i gofrestru ar gyfer un o'n cyrsiau iaith Tsieinëeg sydd ar gael yn yr Hydref."
Cwrs Paentio Tsieniaidd Traddodiadol – Pafiliwn Grange – Mehefin 4-25
Arweiniodd y tiwtor, Shaojuan Wan, gwrs Peintio Tsieineaidd pedair wythnos i oedolion ym Mhafiliwn Grange yng Nghaerdydd. Cafodd y cwrs a gynhaliwyd gyda'r nos dros bedwar dydd Mawrth, ei fwynhau'n fawr gan bawb a fynychodd. Erbyn diwedd y cwrs roedd y dosbarth yn gallu cynhyrchu gwaith celf hardd y gallent fynd ag ef adref.
Dywedodd Keithley, o Gaerdydd: “Mae wedi bod yn bleser ymuno â’r sesiynau Paentio Tsieineaidd. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano cyn i mi fynd i’r sesiynau. Mae ein hathrawes, Shaojuan, yn wych o ran sut mae'n ein hannog ni i gyd. Dros yr wythnosau dwi wedi dod yn beintiwr hyderus. Mae fy nheulu a fy ffrindiau’n dweud wrthyf fi fod fy mheintiadau’n ddigon da i gael eu fframio. Felly, bydda i’n mynd i Ikea yr wythnos nesaf i chwilio am ffrâm. Os bydd cyfle arall i wneud y cwrs hwn, peidiwch ag oedi a chofrestrwch yn syth. Byddwch chi wrth eich bodd!"
Beth sydd nesaf? Bydd Sefydliad Confucius Caerdydd yn ymweld â Hybiau Llyfrgell yng Nghaerdydd yn ystod mis Awst i ddarparu gweithgareddau crefft Tsieineaidd i bawb. Dewch i ymuno â ni:
Dydd Mercher, 7 Awst 14:30 – 16:00 Canolfan Gymunedol Pen-Y-Lan, Caerdydd
Dydd Gwener, 16 Awst 11:00 – 12:30 Hyb Rhiwbeina, Caerdydd