Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd ymchwil ôl-raddedig flynyddol yr ysgol yn llwyddiant

25 Mehefin 2024

Mae dyn yn sefyll o flaen sgrîn ac yn siarad ag ystafell o bobl. Wrth ei ymyl mae pump o fyfyrwyr.

Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Ysgol Ieithoedd Modern eu cynhadledd ymchwil ôl-raddedig flynyddol. Cyflwynodd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o'r Ysgol ac o brifysgolion ledled y DU eu gwaith i staff a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd.

Trefnwyd y gynhadledd, a gynhaliwyd ar 6 Mehefin, gan ymchwilwyr ôl-raddedig o’r Ysgol Ieithoedd Modern ac fe’i cefnogwyd gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru. Teitl y gynhadledd oedd 'Cyfarfyddiadau Trawsddiwylliannol: Safbwyntiau Rhyngddisgyblaethol ar Iaith, Hanes, a Diwylliant mewn Cymdeithas Fyd-eang’ a’r nod oedd amlygu a dathlu ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n trafod sut mae iaith, hanes, a diwylliant yn ein diffinio, a sut rydyn ni’n eu diffinio mewn cymdeithas fyd-eang gysylltiedig.

Cafodd dros 20 o bapurau eu cyflwyno gan fyfyrwyr ôl-raddedig o bob rhan o’r gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau ar 6 phanel drwy gydol y dydd. Gofynnwyd i'r rhai oedd yn cyflwyno gynnwys 3 ffrwd ymchwil yr Ysgol Ieithoedd Modern yn eu hymchwil. Ymhlith y rhain y mae hanes a threftadaeth, cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac astudiaethau ardal byd-eang ac sy’n seiliedig ar iaith. Yn ogystal â chyflwyno eu hymchwil, cafodd y myfyrwyr gyfle i rwydweithio a chawson nhw hefyd gyfle i glywed cyflwyniad gan yr Athro Kate Griffiths o’r enw ‘Dechrau a datblygu gyrfa academaidd’.

Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd un person a oedd yn bresennol: “Y rhan fwyaf defnyddiol o’r digwyddiad oedd y Cymorthfeydd Ymchwil a’r cyfle i ofyn cwestiynau i academyddion profiadol am yrfaoedd academaidd.”

Jacob Lloyd, myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, oedd un o’r rhai a drefnodd y digwyddiad. Meddai: “Roedd hwn yn gyfle gwych i ddod ag ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau, cefndiroedd a sefydliadau ynghyd. Roedd yn braf gweld pob un a gymerodd ran yn ymgysylltu’n frwd â chyflwyniadau eu cydweithwyr, a gyda’r sesiynau a gynhaliwyd gan uwch-academyddion. Rwy’n siŵr y bydd y cysylltiadau a wnaed a’r syniadau a gafwyd yn arwain at ymchwil ffrwythlon yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon