Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Google i ddylunio gemau hygyrch i bobl ag anableddau
25 Mehefin 2024
Mae Dr Fernando Loizides a Chra Abdoulqadir yn gweithio gyda thîm o ddatblygwyr o bob cwr o’r byd i lansio gêm hygyrch am ddim ar blatfform Google Play.
Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn gweithio ar gêm arbrofol wedi'i anelu at ddefnyddwyr ag amhariadau ar y golwg ag anableddau echddygol, gyda chynlluniau i ryddhau ail gêm lawn ar Google Play yn hwyrach yn 2024.
Dywedodd Dr Loizides mai'r cymhelliant ar gyfer datblygu gêm o'r fath oedd diffyg amrywiaeth a chyfyngiadau yn y profiadau hygyrch sydd ar gael ar hyn o bryd.
Dywedodd Dr Loizides: "Yr egwyddor sy’n arwain ein gwaith yw y dylai profiadau fod yr un mor bleserus i unigolion nac ydyn yn anabl ag ydyn nhw i'r rhai ag anabledd neu sawl anabledd. Drwy ddefnyddio datblygiadau technolegol, ein nod yw cynnig rhyngweithiadau cyfforddus a naturiol sy'n creu profiadau pleserus."
Mae'r gêm arbrofol sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd, o’r enw 'CellEscape', yn seiliedig ar fywyd go iawn Nellie Bly - newyddiadurwr yn Efrog Newydd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae'r gêm ei hun yn seiliedig ar un o ymchwiliadau go iawn Bly, lle aeth yn gudd i seilam i daflu goleuni ar sut y cafodd y menywod a oedd yn gleifion yno eu trin.
Bydd Nellie Bly hefyd yn brif gymeriad y gêm lawn y mae'r tîm yn gobeithio ei rhyddhau yn ddiweddarach eleni, a fydd yn canolbwyntio ar ei thaith 72 diwrnod ledled y byd, wedi'i hysbrydoli gan 'Around the World in Eighty Days' gan Jules Verne
Mae Dr Loizides a Miss Abdoulqadir yn gweithio yn rhan o dîm sy'n cynnwys timau hygyrchedd Google yn Llundain a California a pheirianwyr sain yn Efrog.
Dywedodd Dr Loizides: "Ein nod yw creu profiadau gemau ffonau symudol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr anabl a defnyddwyr nad ydyn nhw yn anabl fel ei gilydd heb amharu ar adloniant. Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni’n ystyried y pethau mae’r defnyddiwr yn gwneud a’r pethau mae’r defnyddiwr yn clywed yn ofalus.
"Gan ddefnyddio sain deuseiniol, mae defnyddwyr yn ymgolli mewn amgylchedd clywedol gofodol, gan wella eu synnwyr o gyfeiriad a’r profiad o ymgolli.’ Ar gyfer rhyngweithio â’r gêm, mae siarad yn ymddangos yn naturiol. Fodd bynnag, rydyn ni’n eirioli dros ryngweithio iaith naturiol yn ein profiadau. Trwy ganiatáu i ddefnyddwyr gyfathrebu'n naturiol â chymeriadau, rydyn ni’n creu rhyngweithiadau realistig ac yn lleddfu'r baich o gofio gorchmynion penodol y tu hwnt i swyddogaethau sylfaenol megis oedi ac ailddechrau’r gêm.
Yma, mae prosesu iaith naturiol a datblygiadau ym maes deallusrwydd artiffisial yn gweithio o'n plaid. Ar ôl dadansoddi lleferydd defnyddwyr am deimladau, mae ein meddalwedd yn addasu'r sgript yn ddeinamig, gan gynnig profiad unigryw wedi'i deilwra i bob rhyngweithiad.
"Wrth symud ymlaen, rydyn ni’n anelu at wneud ein profiadau yn hygyrch i bobl fyddar a thrwm eu clyw trwy ddefnyddio delweddau gweledol diddorol a rheolyddion cyffwrdd ar gyfer defnyddwyr ag anawsterau lleferydd."