Ewch i’r prif gynnwys

Ffisegydd mathemategol yn ennill Gwobr Anne Bennett

25 Mehefin 2024

Bu i Dr Ana Ros Camacho ennill Gwobr Anne Bennett gan Gymdeithas Fathemategol Llundain am ei chyfraniadau at faes ffiseg fathemategol ac am ei hymdrechion parhaus i hybu menywod yn y maes.

A hithau’n ddarlithydd yn ein hysgol, mae Dr Ros Camacho yn canolbwyntio ar ddeall cysyniadau cymhleth ym meysydd algebra cwantwm a ffiseg fathemategol. Mae ei gwaith ar gyfatebiaeth theori Landau-Ginzberg/maes cydffurf wedi cymryd cam mawr ymlaen drwy ddangos y ceir cysylltiad dyfnach rhwng rhai strwythurau mathemategol. Mae'r datblygiad hwn yn gosod y safon ar gyfer ymchwil a wneir yn y maes yn y dyfodol.

Y tu hwnt i'w gwaith ymchwil, mae Dr Ros Camacho yn eiriolwr brwd dros fenywod a’r rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol ym meysydd mathemateg a ffiseg fathemategol. Mae wedi mentora sawl gwyddonydd benywaidd ifanc, ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drefnu gweithgareddau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn lleol ac yn rhyngwladol.

Yn 2019, Dr Ros Camacho i arwain y gwaith o greu’r rhwydwaith Menywod ym maes Ffiseg Fathemategol, a ddaeth â menywod iau a hŷn yn y maes at ei gilydd drwy weithdai yng Nghanolfan Ymchwil Ryngwladol Banff yn 2020 a 2023.

Yn ddiweddar, cyd-sefydlodd Dr Camacho y Gymdeithas i Fenywod ym maes Ffiseg Fathemategol, sef cymdeithas nid-er-elw sydd â’r nod o fwrw ati â’r amcanion y mae hi wedi’u hyrwyddo drwy gydol ei gyrfa. Mae ei hymdrechion wedi cael effaith sylweddol ar dirwedd ffiseg fathemategol, gan ei gwneud yn fwy cynhwysol a chefnogol i wyddonwyr benywaidd.

Mae Gwobr Anne Bennett yn cydnabod cyfraniadau rhagorol at faes mathemateg a hybu menywod yn y maes, ac mae cyflawniadau Dr Camacho yn y ddau faes hyn yn ei gwneud hi’n gwbl deilwng o’r wobr eleni.

Anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn y wobr hon, sy’n rhoi sylw i bwysigrwydd fy ngwaith ymchwil a’m hymgyrchu ym maes EDI. Alla’ i ddim dychmygu un ohonyn nhw heb y llall a dweud y gwir, gan fod y ddau ohonyn nhw’n anelu at gysylltu dau fyd gwahanol i greu un mwy prydferth ac unedig! Mae'r wobr hon yn fy ngalluogi i barhau.
Dr Ana Ros Camacho Lecturer

Cafodd y wobr ei chyhoeddi’n swyddogol yn ystod cyfarfod cyffredinol Cymdeithas Fathemategol Llundain (LMS) ar 28 Mehefin. Bydd y seremoni gyflwyno diplomâu yn cael ei chynnal yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol LMS ar 22 Tachwedd.

Rhannu’r stori hon