Mae peidio â gweithredu ar yr hinsawdd yn tanseilio cefnogaeth y cyhoedd i newidiadau yn ein ffordd o fyw
25 Mehefin 2024
Mae ymchwil newydd ar ganfyddiad y cyhoedd o gynlluniau newid yn yr hinsawdd wedi canfod bod peidio â gweithredu yn cyfyngu ar allu’r cyhoedd i gredu bod dyfodol carbon isel yn bosibl, er bod cefnogaeth gref i ffyrdd o fyw carbon isel.
Canfu'r astudiaeth newydd gan y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol fod trafodaethau wleidyddol ac yn y cyfryngau sy'n cyfiawnhau ymdrechion lliniaru annigonol o ran newid yn yr hinsawdd - a elwir yn 'ddisgyrsiau oedi' - yn effeithio'n sylweddol ar ganfyddiad y cyhoedd yn y DU.
Dyma a ddywedodd Dr Catherine Cherry, Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol: “Wrth i dymheredd byd-eang barhau i godi, her enfawr yw cyfyngu ar gynhesu i mor agos ag y gellir i 1.5°C, ac mae hyn yn gofyn am drawsnewidiadau aruthrol yn y gymdeithas drwyddi draw. Mae gofyn inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o fyw, a hynny ar frys.
Aeth yr ymchwilwyr ati i ddeall canfyddiad y cyhoedd o weithredu ar yr hinsawdd, gan ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd ym Manceinion, Aberdeen a de-orllewin Lloegr rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021.
Canfuon nhw fod gan y cyhoedd orhyder yn y camau presennol a bod negeseuon amgylcheddol hirsefydlog wedi dylanwadu arnyn nhw. Roedd hyn yn ei dro’n eu harwain i gredu bod gweithredu’n bersonol ac ar raddfa fach yn ddigonol a bod hyn yn rhoi sicrwydd ffug.
Canfuwyd hefyd fod y cyhoedd yn amddiffynnol o ran newidiadau radical, gan gynnwys bwyta llai o gig neu hedfan yn llai, a bod hyn yn arwain at wrthwynebiad i'r newidiadau mwyaf radical o ran ffyrdd o fyw, a hynny oherwydd pryderon ynghylch rhyddid personol a thegwch.
Canfuwyd hefyd yr ymdeimlad o anobaith, gan argyhoeddi unigolion bod newidiadau ystyrlon yn amhosibl.
Mae'r ymchwilwyr yn galw am ffordd newydd o ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n mynd y tu hwnt i roi gwybodaeth yn unig.
“Rydyn ni’n awgrymu cynnwys y cyhoedd yn y gwaith o fynd ati ar y cyd i greu gweledigaethau cadarnhaol a theg o ddyfodol cynaliadwy drwy brosesau cydgynghorol fel Cynulliadau Dinasyddion. Gallai hyn helpu i greu mandad cyhoeddus o blaid polisïau hinsawdd a meithrin ymdeimlad o ddinasyddiaeth yr hinsawdd, gan wanhau'r ddisgwrs oedi."
“Drwy ddeall sut mae ‘disgwrs oedi’ yn effeithio ar ddiddordeb y cyhoedd mewn dyfodol mwy cynaliadwy, gallwn ganolbwyntio ar negeseuon o ddadleuon gwleidyddol a’r cyfryngau i sicrhau bod pawb – o wleidyddion i’r cyhoedd – yn dewis gweithredu dros yr hinsawdd,” ychwanegodd Dr Cherry.
Cyhoeddwyd yr ymchwil, sef ‘Discourses of climate inaction undermine public support for 1.5 °C lifestyles’, yn Global Environmental Change.