Ewch i’r prif gynnwys

Mae Medicentre Caerdydd wedi cynnal digwyddiad i hybu cydweithio rhwng y byd academaidd a byd diwydiant

24 Mehefin 2024

Daeth arbenigwyr y byd academaidd a byd diwydiant ynghyd i feithrin y broses o arloesi a datgloi potensial cydweithio.

Mae MediWales ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi cynnal digwyddiad ymgysylltu i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng arbenigedd yn y byd academaidd a byd diwydiant. Bwriad y digwyddiad oedd egluro’r cymhlethdodau ynghlwm wrth sicrhau bod y ddau sector yn cydweithio â’i gilydd.

Gall y byd academaidd a byd diwydiant gynnig safbwyntiau, cyfleoedd a sgiliau unigryw i’w gilydd. Weithiau, bydd cyfuno arbenigedd gwyddonol a masnachol yn cyflymu’r broses o ddatblygu cynnyrch, effeithlonrwydd byd diwydiant ac atebion newydd. Ond sut y mae partneriaethau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant yn dechrau, yn datblygu ac yn llwyddo? Drwy gyfrwng prif siaradwyr a thrafodaeth banel ryngweithiol, roedd y digwyddiad hwn wedi tynnu sylw at brosiectau cydweithio llwyddiannus, deilliannau go iawn yn ogystal â chyfeirio at gydweithio posibl yn y dyfodol.

Dyma a ddywedodd Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Gweithrediadau Arloesi Prifysgol Caerdydd: “Diben y digwyddiad hwn oedd dod â'r byd academaidd a byd diwydiant at ei gilydd i rwydweithio ond ar ben hynny i geisio datrys yr hyn y dylid a’r hyn na ddylid ei wneud wrth gydweithio a sut i ddatblygu’r arloesi a wneir."

Mae arloesi’n gofyn am amrywiaeth - o ran syniadau, cefndiroedd a phrofiad. Drwy greu lle i grwpiau amrywiol o bobl gydweithio â’i gilydd, gan gynnwys arbenigwyr academaidd, arbenigwyr gofal iechyd, y sector cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, rydyn ni’n helpu i ysgogi arloesi rhanbarthol sydd, yn ei dro, yn effeithio’n economaidd ac yn gymdeithasol ar Gymru, a hynny mewn ffordd sylweddol.
Rhys Pearce-Palmer Innovation Operations Manager

Yn y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Mawrth 4 Mehefin, croesawyd mwy na 80 o bartneriaid byd diwydiant, gofal iechyd, y sector cyhoeddus ac academyddion. Roedd nifer o brif siaradwyr yno, gan gynnwys Rhodri Turner – Rheolwr Masnacheiddio Ymchwil Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi’r Brifysgol, cyn-fyfyriwr y Brifysgol Felix Dobbs – Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Broken String Biosciences Ltd, a’r Athro Ian Weeks OBE – Athro Biocemeg Drosi Prifysgol Caerdydd .

Dyma a ddywedodd yr Athro Weeks : “Mae cyfathrebuyn hollbwysig. Mae'n syndod faint o bobl sydd ddim o reidrwydd yn gwybod pa arbenigedd sydd ar gael i'w helpu a'u cynghori wrth iddyn nhw ddysgu sut i arloesi. Mae digwyddiadau fel hyn yn greiddiol yn y gwaith hwn fel y gall pobl â syniadau llawn dychymyg eu troi’n brosiectau sy’n arloesi.”

Cadeiriodd Gwyn Tudor, Prif Swyddog Gweithredol MediWales, sesiwn y panel a oedd yn cynnwys yr Athro Phil Coles – Prif Arweinydd Arloesi Clinigol SBRI Healthcare, Simon Renault – Pennaeth Rhaglenni a Phartneriaethau Cyflawni wrth Arloesi Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru, Liz Rees – Arweinydd Rhaglen Gyllido Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Dr James Hindley - Prif Weithredwr ImmunoServ Ltd, a Paul Devlin - Pennaeth Masnacheiddio ac Effaith Ymchwil Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol.

Yn dilyn y sgyrsiau, cafodd y sawl a ddaeth ynghyd y cyfle i rwydweithio dros ginio a rhannu eu hangerdd dros arloesi ac ymchwil a datblygu yn sectorau technoleg feddygol, biotechnoleg a gofal iechyd.

Dyma a ddywedodd yr Athro Aled Clayton , Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol Meddygaeth: “Un o’r cwestiynau mawr yw deall ble mae’r bylchau yn y diwydiant. Mae nodi'r bylchau hyn yn hollbwysig oherwydd, heb yr wybodaeth hon, mae'n anodd mynd i'r afael â nhw'n effeithiol. Rhywbeth sydd yr un mor bwysig yn y diwydiant yw bod yn ymwybodol o'r asedau a'r datblygiadau arloesol sydd ar gael inni a sut y gallwn ni eu datblygu. Mae'r eglurder y mae’r Ysgol Meddygaeth yn ei roi yn hyn o beth yn amhrisiadwy yn y broses hon. Felly, mae digwyddiadau fel hyn, pan fydd meddyliau o’r un anian yn dod at ei gilydd, yn hollbwysig.”

Medicentre Caerdydd, a sefydlwyd ym 1992, oedd yr uned hybu busnes gyntaf o'i bath yn y DU.  Mae’n fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Y Medicentre, ar diroedd Ysbyty Athrofaol Cymru, yw’r lle delfrydol i roi cymorth ymarferol i lansio prosiectau arloesol a'u masnacheiddio. Yno mae 19,050 o droedfeddi sgwâr i greu labordai a swyddfeydd modern lle mae tîm cymorth busnes arbenigol yn gweithio.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn ganolfan meithrin busnesau sy'n cynnig lle a chefnogaeth ar gyfer busnesau newydd ym maes biodechnoleg a thechnoleg feddygol.