Ewch i’r prif gynnwys

Mae ImmunoServ wedi ymuno â Medicentre Caerdydd

1 Gorffennaf 2024

Tîm Gweithredol ImmunoServ (o’r chwith i’r dde): Dr Martin Scurr (Prif Swyddog Gwyddonol), yr Athro Andrew Godkin (Prif Swyddog Meddygol a Chynghorydd Gwyddonol) a Dr James Hindley (Prif Swyddog Gweithredol)

Mae'r gwyddonwyr o Gymru a oedd wedi creu pecyn unigryw i brofi imiwnedd Covid-19 wedi symud eu tîm i fod yn rhan o Medicentre Caerdydd.

Mae ImmunoServ wedi cymryd prydles o 1,000 troedfedd sgwâr i greu labordy a swyddfa yn rhan o’r tîm hybu biotechnoleg a technoleg feddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Yno mae'r tîm o saith o imiwnolegwyr, gan gynnwys pum gwyddonydd sydd wrthi’n astudio PhD, yn datblygu ffyrdd o ehangu ei dechnoleg i feysydd clinigol eraill.

Sefydlwyd ImmunoServ yn 2020 gan y cyn-fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd Dr Martin Scurr a'r Athro Andrew Godkin, gan ddylunio prawf 'cell T Covid' a oedd yn mesur ymatebion celloedd T cleifion i frechiadau Covid-19. Bellach mae'r datblygiad, sy'n galluogi pobl i wybod pa mor agored ydyn nhw i gael eu heintio o’r newydd, wedi cael ei ddefnyddio mewn llawer o astudiaethau ymchwil ac mae wedi arwain at ddealltwriaeth fanwl o batrymau imiwnedd dynol i'r clefyd.

Dyma a ddywedodd Dr James Hindley, Prif Swyddog Gweithredol ImmunoServ: “Mae celloedd T yn fath o gell gwaed gwyn sy'n amddiffyn y corff rhag cael ei heintio. Dylunion ni brawf cyntaf y byd i’w wneud gartref sy'n galluogi pobl i brofi eu hymateb celloedd T drwy brawf gwaed syml sy’n pigo’r bys. Mae gweld sut mae'r celloedd hyn yn ymateb i haint yn hollbwysig i'n helpu i ddeall clefyd penodol yn well, ond mae hefyd yn golygu y gall pobl gymryd camau i ddiogelu eu hunain.”

Er i’r cwmni ganolbwyntio i raddau helaeth ar Covid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bellach mae ImmunoServ yn ehangu ei dechnoleg i glefydau eraill, gan gynnwys y ffliw, awtoimiwnedd a chanser. Yn 2023 lansiodd y tîm ei Becyn Prawf Labordai Immuno-T sy'n golygu bod modd cynnal profion celloedd T mewn unrhyw labordy ledled y byd.

Aeth Dr Hindley yn ei flaen: “Mae modd ehangu’r gwaith arloesol hwn a’i safoni, gan ei wneud yn offeryn hynod arwyddocaol wrth reoli clefydau. O ran cleifion canser, er enghraifft, dyma brawf gwaed syml sy’n monitro ymatebion i’r driniaeth ac achosion o atglafychu. Yn sgil y profion ar gelloedd T bydd clinigwyr yn deall a yw triniaeth yn gweithio, yn ogystal â phrofi am achosion o atglafychu heb yr angen am ymchwiliadau mewnwthiol fel colonosgopïau.”

Ymhlith cleientiaid a chydweithredwyr y cwmni y mae ymchwilwyr y llywodraeth, y byd academaidd a fferyllol, yn bennaf yn y DU. Mae'r tîm yn cynnig gwasanaethau profi i Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro sy'n caniatáu i glinigwyr ddeall imiwnedd Covid yn fanylach nag unrhyw le arall. Ac mae prawf imiwnedd Covid hefyd ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol drwy wefan y cwmni sy’n gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr: Immuno-T.co.uk.

“Yn ogystal â'n gwasanaethau profi, rydyn ni’n darparu ystod gynyddol o wasanaethau ymchwil contract sy'n canolbwyntio ar imiwnoleg, gan gynnwys teipio antigenau lewcocyte dynol (HLA) a dilyniannu derbynyddion celloedd T (TCR) - dwy dechneg gyflenwol sy'n ein helpu i ddeall risg pobl i glefyd a'n helpu i ddylunio brechlynnau gwell,” meddai Dr Hindley. “Dros y blynyddoedd nesaf byddwn ni’n ehangu’r prosiectau ar y cyd rydyn ni wedi'u gwneud ac yn masnacheiddio ein gweithgareddau ymchwil a datblygu cynyddol yn y DU a’r tu hwnt iddi.”

Mae ImmunoServ wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen arloesi hyblyg newydd (SMART FIS) yn ogystal â chyllid datblygu busnes tramor (OBDV). Mae bod yn rhan o Medicentre Caerdydd yn symudiad strategol i'r cwmni gan ei fod yn ceisio manteisio ar arbenigedd lleol a all helpu i ddatblygu cynnyrch a phresenoldeb ImmunoServ yn rhyngwladol.

Dyma a ddywedodd Dr Hindley: "Rwy hefyd yn adnabod y Medicentre yn dda ar ôl bod yn denant am amser hir yn y gorffennol. Peth gwych yw bod yn ôl a gallu ailgysylltu â'r tîm cymorth a’r busnesau eraill ym maes gwyddorau bywyd yn yr adeilad."

Mae gan y Medicentre gymaint i'w gynnig, gan gynnwys y lleoliad ar safle'r Ysbyty Athrofaol, sef cyfle heb ei ail i gysylltu a chydweithio â chlinigwyr ac academyddion. Ac mae gan yr adeilad lawer o hyblygrwydd i ehangu’n ddilyffethair. Roedd pob un ohonon ni wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae gan rai ohonom gontractau parhaus neu fygedol gyda'r Brifysgol o hyd. Felly rydyn ni'n deall bod cronfa o dalent yma ac rydyn ni’n bwriadu recriwtio rhywfaint o’r gronfa hon i’r busnes yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Dr James Hindley Prif Swyddog Gweithredol, ImmunoServ

Dyma a ddywedodd Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Arloesi Medicentre Caerdydd, “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ImmunoServ i’r Medicentre ac estyn cymorth o ran costau paratoi’r labordy drwy ein cynllun 'ymgynefino'. Mae tîm Medicentre a minnau yn edrych ymlaen at gefnogi'r cwmni wrth iddo ehangu ar y datblygiadau ysblennydd y mae wedi'u gwneud wrth ddeall cymhlethdodau afiechyd ac imiwnedd yn well.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.