Ewch i’r prif gynnwys

Archeolegwyr gwirfoddol yn cloddio'n ddyfnach yn un o barciau’r ddinas

21 Mehefin 2024

Cloddio archaeoleg
Mae'r gwaith cloddio yn cynnwys 100 o wirfoddolwyr cymunedol - llun Vivian Thomas

Bydd heneb seremonïol anesboniadwy yn cael ei dadorchuddio yn ystod trydydd cam gwaith cloddio archeolegol ym Mharc Trelái.

Mae Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER), sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol, trigolion a phartneriaid treftadaeth, wedi ailddechrau ei ymchwiliadau, a hynny hanner milltir o Fryngaer Caerau. Mae’r Fryngaer yn safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol lle mae gwrthrychau sy’n rhoi cipolwg ar hanes Neolithig, Oes yr Haearn, Rhufeinig a chanoloesol wedi’i ddarganfod o'r blaen.

Mae Parc Trelái yn cael ei ddefnyddio yn aml gan dimau chwaraeon a phobl sy’n mynd â’r ci am dro. Ond wedi'i gladdu o dan y gwair ger Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd mae tŷ crwn mewn cyflwr arbennig o dda sy'n dyddio'n ôl i 1500 CC - y tŷ cynharaf yng Nghaerdydd.

Roedd y tîm wedi darganfod darnau o bot anhygoel o'r Oes Efydd yn ystod y gwaith cloddio cyntaf ddwy flynedd yn ôl, sydd bellach wedi cael ei roi yn ôl at ei gilydd yn ofalus. Roedd y gwaith cloddio’r llynedd yn canolbwyntio ar lawr yr adeilad a thua diwedd y gwaith, fe wnaeth y tîm ddarganfod strwythur posibl a allai hyd yn oed fod yn hŷn na’r adeilad anhygoel hwn.

Llun o'r awyr o gloddiad archaeoleg
Mae Parc Trelái yn cael ei ddefnyddio yn aml gan dimau chwaraeon a phobl sy’n mynd â’r ci am dro. Ond wedi'i gladdu o dan y gwair ger Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd mae tŷ crwn mewn cyflwr arbennig o dda sy'n dyddio'n ôl i 1500 CC - Llun Vivian Thomas

Dyma a ddywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER, Dr Oliver Davis, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Ychydig ddyddiau cyn diwedd y gwaith cloddio llwyddiannus y llynedd, daethon ni ar draws gweddillion yr hyn rydyn ni'n meddwl sy'n strwythur arall o dan y tŷ crwn o'r Oes Efydd.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddysgu beth yw’r strwythur yn ystod y gwaith cloddio eleni er mwyn i ni ddeall ei arwyddocâd. Gallai fod yn dŷ o oes gynharach, neu hyd yn oed rhyw fath o heneb ddefodol, efallai cylch pren lle byddai cymunedau ymgynnull ar adegau penodol o'r flwyddyn yn yr Oes Efydd Gynnar.”

Mae'r gwaith cloddio yn cynnwys 100 o wirfoddolwyr cymunedol.

Mae Alice Clarke, gwirfoddolwr o Gaerau sy'n ymwneud â grŵp cymunedol Love Our Hillfort, wedi bod yn helpu i lanhau arteffactau, megis darnau bach o grochenwaith neu fflint, wrth iddyn nhw gael eu tynnu o'r ddaear.

Gwraig yn edrych ar y camera
Gwirfoddolwr Alice Clarke

“Mae'n waith cywrain,” meddai. “Mae wir yn gwneud i'r adrenalin godi pan fyddwch chi'n dod o hyd i rywbeth a allai fod yn bwysig. Mae'n ddiddorol iawn dysgu am yr hanes sydd yma. Rwy'n caru pob munud.”

Gwraig yn edrych ar y camera
Gwirfoddolwr Sian Davies

Ychwanegodd ei chyd-wirfoddolwr, Siân Davies, cyn-weithiwr gofal sydd bellach wedi ymddeol o Ogledd Llandaf: “Dyma fy nhrydydd prosiect cloddio - dwi'n mwynhau archaeoleg yn fawr iawn. Rwy'n hoff iawn o'n grŵp ac mae'n bleser gweithio gyda'r myfyrwyr. Mae'n bleser cymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn; mae'n anodd egluro faint o foddhad mae’n ei roi i chi.”

Meddai Scott Bees, myfyriwr BSc Archaeoleg yn ei ail flwyddyn, a ddaeth i addysg uwch drwy gyfrwng Llwybr Prifysgol Caerdydd ac sydd wedi bod yn dadansoddi samplau pridd sydd wedi’u cymryd o'r safle: “Mae'n wych bod yn ôl yn Nhrelái. Rydyn ni wrthi ers wythnos a hanner i mewn ac rydyn ni eisoes wedi dod o hyd i lawer o dystiolaeth ddiddorol a fydd yn helpu i roi syniad i ni o'r bobl a oedd yn byw yma filoedd o flynyddoedd yn ôl.”

Yn gyn-bostmon ac yn dad i bump o blant, ychwanegodd Scott: “Mae'n dal i deimlo fel breuddwyd, fel fy mod i'n byw bywyd rhywun arall.”

Doeddwn i erioed wedi meddwl y gallwn i wneud rhywbeth fel hyn, sef dod at fyd addysg uwch trwy’r cwrs llwybr ac astudio am radd. Nawr mai dim ond blwyddyn sydd gen i ar ôl nes i mi gwblhau fy ngradd, mae'n gwneud i mi ei eisiau hyd yn oed yn fwy.

Scott Bees Myfyriwr BSc Archaeoleg yn ei ail flwyddyn

Dywedodd Lois Atkinson, Swyddog Datblygu Canolfan CAER ar gyfer ACE: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn, wrth i ni sefydlu ein Canolfan CAER wych yn ganolbwynt ar gyfer dysgu a chyfleoedd.”

Fel bob amser, mae ein cloddfa archeolegol flynyddol wrth wraidd pethau, yn cynnwys pobl o bob oed, yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd, creu cyfeillgarwch newydd, croesawu ymwelwyr a dod â phobl leol ynghyd i geisio gwybodaeth am ein treftadaeth anhygoel.

Lois Atkinson Swyddog Datblygu Canolfan CAER ar gyfer ACE

Dyma a ddywedodd Mike Tate, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, sydd ychydig o bellter o’r safle: “Rwy'n falch iawn o'n partneriaeth barhaus â Phrifysgol Caerdydd a Phrosiect Treftadaeth CAER.”

Bydd disgyblion o'r ysgol a'n hysgolion clwstwr yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y gwaith cloddio ac i ymgolli yn hanes eu cymuned. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ehangu ac ymgorffori ein hystod eang o bartneriaid yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf a rhoi Caerau a Threlái ar y map trwy’r cyfleoedd cyffrous a diddorol sydd wedi'u cynllunio.

Pennaeth Mike Tate Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Mae'r gweithgaredd diweddaraf hwn yn cyd-fynd ag arddangosfa yn Amgueddfa Caerdydd a lleolir yng nghanol y ddinas, a fydd yn arddangos yr holl wrthrychau archeolegol a gweithiau celf ysbrydoledig o GAER.. Mae'r arddangosfa yma yn cael ei chynnal tan fis Medi.

Mae'r cloddio wrthi’n digwydd ym Mharc Trelái tan yn gynnar ym mis Gorffennaf, a bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal Ddydd Sadwrn 22 Mehefin rhwng 10am a 2pm. I gymryd rhan, cysylltwch â: caerevents@ACEPLACE.org neu drwy Facebook: @CAERHeritage

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.