Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyriwr i ddychwelyd i Ŵyl Caeredin eleni

17 Mehefin 2024

Llun/photo Dom Moore

Yr haf hwn, bydd awdur arobryn yn mynd â’i sioe ddiweddaraf i’r ŵyl ryngwladol.

A hithau’n ysgrifennu ar gyfer llwyfan, teledu a ffilm, dydy Laura Horton ddim yn anghyfarwydd â llwyfannau yn y DU ac UDA.

Mae ei drama newydd Lynn Faces yn dod yn sgil ei sioe a enillodd wobr yng Ngŵyl Ymylol Caeredin y llynedd, sef Breathless .

Llynedd, cafodd Breathless ei llwyfannu yn Theatr Soho, ac yn rhan o’r digwyddiad Brits Off Broadway yn Efrog Newydd hefyd, lle bu i Laura lansio ei phrosiect digidol cysylltiedig o’r enw Hidden by Things.

"Mae ymson gomig a theimladwy Laura Horton yn bortread llawn cydymdeimlad o gelciwr cynnyrch dros ben." (Breathless - New York Times Critic’s Pick)

Yn ei gwaith mwyaf diweddar ar gyfer y llwyfan, mae Laura yn trin a thrafod yr effaith y mae ymddygiad difrïol yn ei chael, grym cyfeillgarwch a sut y gall ffolineb arwain at iachau.

A hithau’n agosáu at ei phen-blwydd yn 40 oed, yn ofnadwy o swil, ac yn gwella ar ôl diwedd perthynas wenwynig, mae Leah yn aelod o fand pync-roc a ysbrydolwyd gan Lynn o gyfresi Alan Partridge yn Lynn Faces.

Wrth i Leah gamu i’r llwyfan heb unrhyw allu cerddorol, y cwestiwn yw: a fydd y gig hon yn ei gwthio hi ymhellach dros y dibyn neu’n ei helpu i adennill hyder a rhoi’r gobaith sydd ei angen arni i allu symud ymlaen?

Cafodd Laura Horton (BA 2006, Llenyddiaeth Saesneg)sydd wedi’i lleoli yn Plymouth ac ynymgynghorydd artistig yn Theatr y Barbican, ei henwi’n The Stage 100 am ei gwaith lobïo ac ymgyrchu drwy ei phrosiect Theatre Stories yn 2021.

Y fenyw a’r dramodydd cyntaf erioed i gael ei phenodi’n Llawryfog Geiriau Plymouth, mae ei dramâu arobryn yn cynnwys Labyrinth Diet (enillydd y wobr OFFCOMM); Breathless (enillydd y ddrama gyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin 2022), Popcorn (a gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth BBC Writer’s Room) a Holden Street (a gyrhaeddodd y rhestr fer yng Ngwobrau Iechyd Meddwl yr Alban).

Yn 2020, llwyddodd ei ffilm fer, A Summer of Birds, i ennill y wobr Toast of the Fringe.

A hithau wedi’i chomisiynu ar y cyd gan Theatr New Diorama, Theatr Norwich, a Theatr Royal Plymouth, bydd perfformiad cyntaf o Lynn Faces yng Ngŵyl Ymylol Caeredin (Summerhall, 1 – 26 Awst). Wedi hynny, bydd y sioe ar daith yn y DU yng ngwanwyn 2025.

Rhannu’r stori hon