Yr Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnal symposiwm rhyngwladol ar ddiwylliannau sgrîn yn Nwyrain Asia
17 Mehefin 2024
Daeth academyddion o bob cwr o'r byd at ei gilydd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn ddiweddar i drafod eu gwaith ymchwil ar fenywod tramgwyddus yn niwylliannau sgrîn cymunedau Dwyrain Asia a’u diaspora.
Cafodd y symposiwm, sef Menywod Tramgwyddus yn Niwylliannau Dwyrain Asia, ei chynnal yn yr ysgol ar 23 a 24 Mai 2024 gan Dr Forum Mithani a Dr Elaine Chung. Cafodd y digwyddiad gefnogaeth hefyd gan ddau o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yr Ysgol, Chen Yang a Ka Long Tung.
Cafodd y digwyddiad deuddydd o hyd gefnogaeth gan Yr Academi Brydeinig, Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr, ac Academi Astudiaethau Corea. Daeth dros 20 o ysgolheigion o bob cwr o'r byd i’r symposiwm i gyflwyno eu gwaith ymchwil. Yn rhai o’r cyflwyniadau, myfyriwyd ar y cysyniad o femmes fatales yn sinema gyfoes Siapan, a diogelu dychymyg brodorol drwy gyfrwng sinema.
Yn ogystal â'r cyflwyniadau, cafwyd 3 anerchiad gan academyddion o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Cafwyd anerchiad gan Dr Irene González-López o Birkbeck, Prifysgol Llundain ar bwnc ‘Nwydau a phleserau tramgwyddus: Ailfeddwl y trosiad o weithwyr rhyw panpan yn y Siapan dan Feddiant’. Cafwyd anerchiad hefyd gan Dr Colette Balmain o Brifysgol Kingston, Llundain ar y pwnc ‘Digwyddiadau Angenfilaidd yn y Gothig yn Nwyrain Asia: O Parasite Eve i Greadur Gyeongseon’ a chan Dr Eva Cheuk-yin Li o Brifysgol Caerhirfryn ar y pwnc ‘Bod yn ffan o Fenyw Dramgwyddus: Sut mae ffans o dir mawr Tsieina yn mynd i’r afael a hunaniaethau ac undod trawsffiniol’.
Cafwyd dangosiad o'r rhaglen ddogfen deledu 'Deciphering Japan' yn ystod y digwyddiad hefyd. Yn dilyn dangosiad o’r rhaglen ddogfen, cafwyd trafodaeth agored am faterion sy’n ymwneud â chynrychiolaeth ddigonol ac amrywiaeth yn y diwydiant sgrîn, yn rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig. Yn arwain y drafodaeth agored oedd cyfarwyddwr 'Deciphering Japan', Georgie Yukiko Donovan, yr actor o Siapan, Haruka Kuroda, a'r arbenigwr yn y cyfryngau Siapaneaidd, Dr Griseldis Kirsch.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd Dr Forum Mithani: "Roedd y symposiwm yn gyfle gwych i ddod ynghyd ac i rannu gwaith ymchwil diddorol a safbwyntiau ysgolheigion ac ymarferwyr yn y cyfryngau o bob cwr o'r byd. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i dynnu sylw at wybodaeth arbenigol a gwaith ymchwil yr Ysgol ar y cyfryngau yn Nwyrain Asia. Roedd adborth gan gyfranogwyr yn gadarnhaol dros ben, yn benodol o ran gweithio ar y cyd ar gyhoeddiad wedi’i olygu ar sail y papurau a gyflwynwyd yn y symposiwm."