Ewch i’r prif gynnwys

Canfuwyd 'cemegau am byth' mewn dyfrgwn yn Lloegr

17 Mehefin 2024

Mae ymchwil newydd gan Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd wedi canfod bod PFAS, a elwir hefyd yn 'gemegau am byth', yn bresennol mewn dyfrgwn yn Lloegr, ac mae hyn wedi codi pryderon am yr effeithiau posibl ar iechyd yn y dyfodol.

Cynhaliodd gwyddonwyr y Brifysgol brofion ar ddyfrgwn o bob rhan o'r DU i fonitro lefelau PFAS yn yr amgylchedd, a hynny er mwyn deall faint o’r cemegau hyn sydd wedi cronni yn nyfroedd croyw y DU, i ba raddau maen nhw’n parhau yn yr amgylchedd a’r risgiau ecolegol ac iechyd ynghlwm wrthyn nhw. Roedd gan yr ymchwilwyr ddiddordeb arbennig yn lefelau cemegau am byth mewn dyfrgwn sy'n byw ger ffatrïoedd sy'n defnyddio PFAS wrth gynhyrchu eu deunydd.

Dyma a ddywedodd Emily O'Rourke, Cydymaith Ymchwil yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: Defnyddir ‘PFAS’ neu 'gemegau am byth' yn helaeth mewn sawl diwydiant oherwydd eu priodweddau gwrthsefyll dŵr ac olew.

Mae cemegau PFAS yn ymdoddi’n rhwydd mewn dŵr, ac yn aml byddan nhw’n mynd i mewn i'r amgylchedd drwy ddŵr gwastraff byd diwydiant, yn ogystal â dŵr ffo carthion, tirlenwi ac ewyn diffodd tân sydd wedi'i seilio ar PFAS. Gan mai dyfrgwn yw prif ysglyfaethwyr dyfroedd croyw Prydain, maen nhw’n cronni cemegau PFAS yn eu deiet, ac felly maen nhw’n ddangosyddion effeithiol o halogi amgylcheddol.
Emily O'Rourke

Cynllun ymchwil yw Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd sy'n canolbwyntio ar astudio dyfrgwn o bob cwr o'r DU. Mae'r prosiect yn defnyddio dyfrgwn y daethpwyd o hyd iddyn nhw’n farw er mwyn monitro poblogaethau dyfrgwn ac astudio ecoleg dyfrgwn, a hynny er mwyn helpu i amddiffyn dyfrgwn Prydain. Mae'r astudiaeth yn ehangu ar ymchwil flaenorol y tîm, ac yn archwilio crynodiadau 33 math o gemegau PFAS mewn dyfrgwn marw y daethpwyd o hyd iddyn nhw rhwng 2015 a 2019, gan ganolbwyntio ar ardal yr effeithiwyd arni gan ffatri a oedd gynt wedi defnyddio cemegau PFAS.

“Roedd ein hymchwil flaenorol a oedd yn defnyddio dyfrgwn wedi dangos crynodiadau uchel o gemegyn PFAS, sef PFOA, ger ffatri sy'n defnyddio'r cemegyn i gynhyrchu PTFE - a elwir yn Teflon fel arfer. Roedd y ffatri wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio PFOA yn 2012 oherwydd rheoliadau, ond mae ein hastudiaeth newydd yn dangos bod crynodiadau PFOA yn uchel o hyd ger y ffatri. Gan fod PFOA yn parhau am amser hir iawn yn yr amgylchedd, disgwylir iddo aros am flynyddoedd lawer, er iddo beidio â chael ei ddefnyddio rhagor.

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y bydd PFOA yn mudo yn raddol drwy’r pridd i ddŵr y ddaear ac felly bydd ei fioargaeledd yn mynd yn llai, ond nid yw amserlen hyn yn hysbys. Mae biomonitro dyfrgwn yn yr ardal hon yn ffordd werthfawr o benderfynu pa mor hir y gall gweithgarwch diwydiannol effeithio ar ecosystemau gerllaw,” ychwanegodd Emily O'Rourke.

Mae rhai cemegau PFAS - megis PFOS a PFOA - yn cael eu rheoleiddio oherwydd eu bod yn docsig a’r ffaith eu bod hwyrach yn aros yn yr amgylchedd yn barhaus. Oherwydd hyn, mae gweithgynhyrchwyr wedi eu disodli gan ddefnyddio cyfansoddion sy’n strwythurol debyg. Ymchwiliodd yr ymchwilwyr hefyd i lefelau'r cemegau newydd yn nyfrgwn y DU.

Er bod y cemegau PFAS hŷn, sydd bellach yn destun rheoleiddio, yn bresennol o hyd o ran y crynodiadau uchaf un yn y dyfrgwn, daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod y cemegau PFAS mwy diweddar yn cael eu canfod hefyd bellach - mewn gwirionedd, canfuwyd rhai o'r cyfansoddion newydd yn y rhan fwyaf o'r dyfrgwn.

Otter with fish

Ymhlith y rhain roedd presenoldeb F-53B, cyfansoddyn a ddefnyddir yn y diwydiant electroplatio yn Tsieina. Nid yw F-53B yn cael ei ddefnyddio yn y DU ar hyn o bryd, ond daethpwyd o hyd iddo mewn 19 o'r 20 dyfrgi a ddadansodwyd, gan awgrymu ei fod yn mynd i mewn i amgylchedd Prydain drwy ddefnyddio a gwaredu cynnyrch a fewnforir sy'n cynnwys F-53B, neu yn sgil cludo nwyddau’n bell o Tsieina.

“Mae'r canfyddiad hwn yn ychwanegu at dystiolaeth gynyddol bod llawer o gemegau newydd yn halogi ledled y byd, neu maen nhw â'r potensial i halogi. Mae hyn yn destun pryder arbennig oherwydd eu tocsigedd posibl. Mae astudiaethau ar lygod mawr, llygod, a physgod wedi dechrau dangos bod ganddyn nhw’r potensial i achosi effeithiau tocsig,” ychwanegodd Emily O'Rourke.

Rydyn ni’n pryderu bod rhai o'r cemegau PFAS newydd hyn yr un mor barhaus a tocsig hwyrach â'r hen gyfansoddion. Mae dybryd angen rhagor o ymchwil ar gemegau PFAS newydd er mwyn deall eu risg i ysglyfaethwyr ar y brig - fel dyfrgwn - a phobl.
Dr Elizabeth Chadwick Lecturer

“Mae’n anochel y bydd rhagor o gynhyrchu, defnyddio ac allyriadau cemegau PFAS newydd yn arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o ddod i gysylltiad â’r amgylchedd a phobl. Bydd yn cymryd blynyddoedd lawer i lefelau amgylcheddol byd-eang ymateb i unrhyw gamau rheoleiddio i leihau allyriadau os caiff risgiau iechyd eu cadarnhau yn y dyfodol. Felly mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddeall yn well y risgiau ynghlwm wrth y ffaith ei fod yn bresennol yn ein hamgylcheddau nawr.”

Cyhoeddwyd yr ymchwil, Persistence of PFOA Pollution at a PTFE Production Site and Occurrence of Replacement PFASs in English Freshwaters Revealed by Sentinel Species, the Eurasian Otter (Lutra lutra), yn y cyfnodolyn Environmental Science and Technology.