Adeilad sbarc|spark yn ennill gwobr arbennig ym maes pensaernïaeth
13 Mehefin 2024
Mae prif hyb Prifysgol Caerdydd ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol, sef sbarc|spark, wedi ennill gwobr ddymunol iawn gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru.
Yn ôl y beirniaid, mae sbarc|spark yn ‘lle sy’n llawn arloesedd a llawenydd’.
Mae’r adeilad yn dod ag ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol, arweinwyr yn y sector cyhoeddus ac entrepreneuriaid ynghyd mewn ysbryd o arloesedd, menter a chydweithrediad. Cafodd ei gynllunio gan y penseiri Hawkins\Brown, ac mae’n chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o gefnogi cenhadaeth y Brifysgol i hyrwyddo meddwl rhyfeddol.
Mae sbarc|spark, sydd ar Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd, yn cynnwys 12,000m² o fannau gweithio, mannau hamdden, labordai, mannau arddangos a pharthau trafod mewn grwpiau. Mae’r rhain wedi’u trefnu o gwmpas grisiau cerfluniol ‘Oculus’ yng nghanol yr adeilad.
Ar y llawr gwaelod, mae’r grisiau’n elfen allweddol o’r croeso i’r adeilad. Mae’r rhesi o seddi ar y naill ochr i’r grisiau cymdeithasol ac anffurfiol hyn yn gallu cael eu defnyddio fel awditoriwm ar gyfer digwyddiadau. I fyny’r grisiau, ceir parthau trafod mewn grwpiau ar ben grisiau pob lefel ac yn agos at y grisiau eu hun, tra bod mannau ar gyfer gwneud gwaith mwy preifat a dwys ar gael ar berimedr yr adeilad.
Mae sbarc|spark yn cefnogi cymuned sy’n tyfu o fwy na 700 o unigolion o gefndiroedd amrywiol, gan feithrin arloesedd a chydweithrediad mewn sectorau.
Dyma gartref SPARK – parc ymchwil cyntaf y byd ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol. Mae SPARK yn dwyn ynghyd 16 o grwpiau ymchwil ryngddisgyblaethol i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bob un ohonon ni, ac mae'n cydweithio â mwy na 100 o bartneriaid ar draws pob cyfandir yn y byd, gan gynnwys 50 yn Ewrop.
Dywedodd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SPARK: “Rydyn ni’n falch iawn o weld Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru’n cydnabod cynllun adeilad sbarc|spark. Mae’n adeilad sydd wedi helpu i gydnabod a symboleiddio gwerth enfawr ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol i gymdeithas, ac mae wedi’i gynllunio mewn ffordd mor arbennig sy’n annog cydweithio, yn cael gwared ar seilos, yn meithrin meddwl dychmygus a chreadigol ac yn annog gwneud ymchwil yn y maes hwn yn fwy gweladwy a thryloyw."
Yn yr adeilad hefyd mae Arloesedd Caerdydd, sy’n croesawu mwy na 40 o sefydliadau allanol, boed graddedigion sy’n entrepreneuriaid, cyrff anllywodraethol neu gyrff yn y sector preifat, i’r swyddfeydd a’r labordai y gellir eu gosod.
Dywedodd Dr John Barker, Cyfarwyddwr Cyswllt Arloesedd yn SimplyDo, un o denantiaid sbarc|spark: “Roedd lleoli ein busnes yn sbarc|spark yn ddewis amlwg i ni. Y tu hwnt i’r cyfle unigryw y mae gwneud hynny’n ei roi i weithio yn yr un lle ag ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, mae’n lleoliad gwych ar gyfer cynnal digwyddiadau cydweithio a chyfnewid gwybodaeth mawr. Mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau ystafell bwrdd gwych ar gyfer cynnal cyfarfodydd busnes lefel uchel gyda’n cleientiaid, sy’n cynnwys Rolls-Royce, Airbus Defence & Space a Llywodraeth Cymru. Mae’r adeilad trawiadol hwn yn adlewyrchu cymaint o’n gwerthoedd busnes craidd ein hunain – canolbwyntio ar gydweithio, ymrwymo i ragoriaeth ac arloesi drwy gadw pethau’n syml.”
Dywedodd Julia Roberts, Partner ac Arweinydd y Sector Addysg yn Hawkins\Brown: “Rydyn ni’n falch iawn o’r ffaith bod cynllun sbarc|spark wedi’i gydnabod yn allwedd i dwf a llwyddiant y rhanbarth a’i fod yn agor y drws i Brifysgol Caerdydd yn ôl y bwriad. Mae hefyd yn lle gwych i’r gymuned ehangach gwrdd, dysgu, rhwydweithio a mwynhau awyrgylch o ymchwil, creadigrwydd a gwybodaeth o’r radd flaenaf.”
Bydd pum enillydd y wobr yn 2024 gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru bellach yn cael eu hystyried ar gyfer gwobr genedlaethol arbennig gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA). Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 11 Gorffennaf. Bydd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stirling RIBA (adeilad gorau’r flwyddyn) yn cynnwys yr adeiladau sydd wedi ennill gwobr genedlaethol gan RIBA, a bydd yn cael ei llunio’n hwyrach yn y flwyddyn.