Ewch i’r prif gynnwys

Cartref newydd i Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

13 Mehefin 2024

Taith o amgylch y cyfleusterau efelychu newydd agoriad safle newydd Heath Park West

Agorwyd cartref newydd er hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gan Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn adeiladau Gorllewin Parc y Mynydd Bychan Prifysgol Caerdydd.

Croesawodd Prifysgol Caerdydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i agor cartref newydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn swyddogol ar safle Gorllewin Parc y Mynydd Bychan. Ystyr hyn yw bod Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd bellach ar un safle am y tro cyntaf ers ei sefydlu, a hynny ar ôl ailwampio'n sylweddol yr hen Adran Gwaith a Phensiynau.

"Mae myfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi eu hyfforddi mewn llawer o ddisgyblaethau gofal iechyd a byddan nhw’n mynd ymlaen i roi cymorth gofal iechyd rhagorol yng Nghymru, ledled y DU a hyd yn oed ledled y byd - gan sicrhau dyfodol iachach i bawb. Drwy fuddsoddi yn ein lleoedd addysg, hyfforddiant ac ymchwil, rydyn ni wedi gallu gwella profiad ein myfyrwyr.

"Bydd y safle newydd yn hynod fuddiol ym maes addysg gofal iechyd a gofal iechyd yng Nghymru yn y dyfodol," meddai Nicola Innes, Pennaeth Ysgol Dros Dro Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd," meddai Nicola Innes, Pennaeth Ysgol Dros Dro Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

Yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner, yn agoriad safle newydd Heath Park West

Ar y safle mae dau adeilad, sef Tŷ'r Wyddfa a Thŷ'r Garth. Lleoedd newydd yw’r adeiladau hyn at ddibenion addysgu ac ymchwil ynghyd â chyfleusterau efelychu newydd sbon sy'n hyrwyddo addysg ryngbroffesiynol.

Yn dilyn yr ailddatblygu mae rhagor o le at ddibenion addysgu a lleoedd addysgol efelychu a throchi ar raddfa lawer mwy.

“Mae addysg efelychu’n gwella dysgu’r myfyrwyr drwy eu helpu i fagu hyder a rhoi byd theori ar waith. Mae'n sicrhau bod myfyrwyr yn cael ystod o brofiadau dysgu gwahanol mewn cyd-destunau efelychu diogel a rheoledig, boed yn gymorth bywyd sylfaenol neu’n sefyllfaoedd brys a phrin. Cyfleuster pwrpasol fydd adeilad newydd Gorllewin Parc y Mynydd Bychan, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau clinigol ac annhechnegol sydd eu hangen i fod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol hynod fedrus, cymwys a gofalgar.

Is-Ganghellor yr Athro Wendy Larner ac Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn lansiad agoriad safle Heath Park West

Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn ein galluogi i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.
Yr Athro Nicola Innes Head of School of Dentistry

Ymhlith y cyfleusterau newydd y mae:

  • Lleoedd cynnal seminarau a hyfforddi sgiliau modern
  • Nifer gynyddol o ystafelloedd ymarferol i ddatblygu ac asesu sgiliau corfforol
  • Y Fflat: cartref cymunedol/gofal efelychiadol sydd â rhagor o fythod cyfathrebu
  • Adnewyddu Ystafell Efelychu Caerllion, ward ysbyty realistig
  • Y Swît: cyfleusterau efelychu o'r radd flaenaf gan gynnwys ystafell friffio, theatr ffug, pedwar bae â chwe gwely mawr sy’n efelychu lleoliad acíwt/ysbyty a phum bwth cyfathrebu at ddibenion datblygu sgiliau cyfathrebu, ymgynghori, cyfweld a chymryd nodiadau hanes claf
  • Ystafelloedd addysgu ymarferol â lleoedd pwrpasol at ddibenion trin â llaw a chynnal bywyd sylfaenol yn ogystal â lleoedd hyblyg at ddibenion addysg ymdrochol a rhyngbroffesiynol
  • Labordai cyfrifiaduron
  • Lleoedd cymdeithasol

Rhannu’r stori hon