Canolfan Wolfson yn mynd i’r Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant 2024
10 Mehefin 2024
Ar 17 Mai, cymerodd Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ran yn y Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle i hybu trafodaethau a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a llesiant, gan ddwyn ynghyd arddangoswyr, siaradwyr ac arbenigwyr ledled y maes.
Dyddiad pwysig yn y calendr yw’r Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant i’r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl neu’r rhai sydd â diddordeb ynddo. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, eiriolwyr a'r cyhoedd, a ddaeth at ei gilydd i gyfnewid gwybodaeth a thrafod profiadau a datblygiadau arloesol ym maes gofal iechyd meddwl. Dyma'r tro cyntaf i Ganolfan Wolfson fynd i’r digwyddiad hwn, a chafodd effaith gadarnhaol wrth i'r tîm ganolbwyntio ar rannu gwybodaeth am ei hastudiaeth flaenllaw, Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL).
Gwnaeth tîm Canolfan Wolfson gymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon gydag ymwelwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill. Yn rhan amlwg o’r trafodaethau hyn roedd SWELL, astudiaeth arloesol sydd â’r nod o wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn eu harddegau. Gwnaeth y tîm roi cipolwg manwl ar amcanion, methodolegau a chanlyniadau disgwyliedig yr astudiaeth, gan bwysleisio pwysigrwydd ymyrryd yn gynnar a meithrin sgiliau pobl ifanc.
Roedd gan ymwelwyr ddiddordeb brwd mewn deall sut y gallai astudiaeth SWELL weddnewid cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, ac roedd y sefydliadau a oedd yn bresennol yn awyddus i gefnogi a hyrwyddo'r treial.
Un o uchafbwyntiau ymwneud Canolfan Wolfson oedd y seminar ‘The Science of Improving Young People's Mental Health’ gan yr Athro Frances Rice, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan, a Dr Jac Airdrie, gyda mewnbwn gan ein Grŵp Cynghori Ieuenctid.
Trafododd yr Athro Rice a Dr Airdrie bwysigrwydd ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, yn ogystal â phwrpas y Ganolfan. Buon nhw’n trafod ffactorau risg ac amddiffyn, sut i nodi achosion a dulliau o roi cymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn astudiaeth SWELL, llenwch y ffurflen gais ar-lein. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am yr astudiaeth, cysylltwch â thîm ymchwil Canolfan Wolfson yn SWELL@caerdydd.ac.uk