Mae Tîm o Brifysgol Caerdydd wedi ennill un o Wobrau Horizon ar ôl datblygu dull gwyrddach o gynhyrchu Neilon
12 Mehefin 2024
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr o gryn bwys sy'n dathlu darganfyddiadau ac arloesi sy'n gwthio ffiniau gwyddoniaeth.
Enillodd tîm Sefydliad Catalysis Caerdydd Wobr Horizon y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ym maes yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni ar ôl datblygu dull gwyrddach o gynhyrchu Neilon.
Am y tro cyntaf, mae eu hymchwil wedi datgysylltu’r broses o gynhyrchu hydrogen perocsid diwydiannol yn llwyddiannus oddi wrth weithgynhyrchu cemegyn o bwys a ddefnyddir mewn nwyddau.
Mae'r broses newydd yn gam sylweddol tuag at gyflawni uchelgais sero net y sector cemegol, medd y tîm - ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, UBE Corporation a Phrifysgol Shanghai Jiao Tong, ynghyd â chyfraniadau gan y Research Complex yn Harwell, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Lehigh
Dyma a ddywedodd Dr Richard Lewis, prif ymchwilydd y prosiect yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: "Rydyn ni wrth ein boddau bod Pwyllgor Gwobr yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni y Gymdeithas wedi cydnabod ein gwaith sy'n ceisio sicrhau newidiadau sylfaenol ym maes cemeg ocsideiddio diwydiannol.
Bob blwyddyn, defnyddir bron i 2.5 miliwn tunnell o hydrogen perocsid (H2O2) i uwchraddio'r deunyddiau crai a ddefnyddir ym maes gweithgynhyrchu cemegol.
Nod hirsefydlog gwyddonwyr fu creu H2O2 a gynhyrchir yn y fan a’r lle at ddibenion synthesis cemegol yn lle H2O2 a ragffurfir. Ond mae cyfuniad o ddadactifadu catalyddion, detholusrwydd gwael a chynnyrch isel, wedi atal y gwaith o fabwysiadu dulliau o'r fath.
Mae ymchwil y tîm yn cynnig datblygiad arloesol, sef cynhyrchu sylwedd canolradd hollbwysig drwy greu Neilon. Maen nhw wedi datblygu cyfres o gatalyddion, sef sylwedd sy'n newid cyfradd adwaith cemegol, yn seiliedig ar nanoronynnau aur-paladiwm ansymudol sy’n rhan o gludydd TS-1 a all gynhyrchu a defnyddio H2O2 yn y fan a’r lle yn effeithlon.
Ychwanegodd yr Athro Graham Hutchings, Athro Regius Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Bwyllgor Gwobrau’r Gymdeithas am eu cydnabyddiaeth.
"Gellid defnyddio’r broses o gynhyrchu H2O2 drwy'r dull newydd hwn mewn ystod eang o gymwysiadau diwydiannol eraill sydd ar hyn o bryd yn dibynnu ar ddefnyddio TS-1 a H2O2 ac mae hyn yn dangos yn glir y gellir gwneud gwelliannau sylweddol ym maes technolegau modern o’r radd flaenaf yn sgil cydweithredu academaidd a diwydiannol."
Mae'r broses newydd yn pontio'r bwlch rhwng yr amodau tra gwahanol sydd eu hangen at ddibenion yr adweithiau unigol ac yn cyflawni bron i 100% o gynnyrch – sy'n golygu bod bron pob un o'r deunyddiau cychwynnol yn troi'n gynnyrch y bwriedir ei greu – heb fawr o wastraff.
Mae mabwysiadu'r dechnoleg hon yn braenaru'r ffordd i gynhyrchu cemegau glanach a mwy effeithlon drwy gynhyrchu H2O2 pan fydd ei angen. Ac mae'n debygol y gellir addasu'r seilwaith presennol i ddefnyddio'r dechnoleg, gan ostwng y problemau ynghlwm wrth ei defnyddio’n ddiwydiannol.
Mae Gwobrau Horizon yn tynnu sylw at wyddoniaeth gemegol gyffrous a chyfoes o’r radd flaenaf ym maes ymchwil ac arloesi. Anelir y gwobrau hyn at grwpiau, timau a phrosiectau ar y cyd o unrhyw fath neu faint sy'n agor cyfeiriadau a phosibiliadau newydd yn eu maes, a hynny drwy ddatblygiadau gwyddonol ac arloesol.