Ewch i’r prif gynnwys

Teils ag iddyn nhw wead yn helpu llyswennod sydd mewn perygl i oresgyn rhwystrau a wnaed gan bobl mewn afonydd, yn ôl astudiaeth

10 Mehefin 2024

Ffotograff agos o'r llysywen Ewropeaidd gyffredin (Anguilla anguilla) ar wely afon creigiog wedi'i orchuddio â llystyfiant
Mae ymchwilwyr yn dweud bod teils i lyswennod yn cynnig ateb newydd i gadwraethwyr o ran teithiau pysgod a allai helpu i ailgysylltu afonydd ar gyfer y llysywen Ewropeaidd (Anguilla anguilla), ac o bosib arafu gostyngiad yn y boblogaeth a bod o fudd i'r amgylchedd

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi profi ffordd newydd o helpu rhywogaeth o lyswennod sydd mewn perygl difrifol i nofio i fyny'r afon yn ystod eu cyfnod mudo.

Mae'r dull yn helpu'r pysgod i oresgyn rhwystrau a wnaed gan bobl, megis cwlfertau, coredau a ffosydd, sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd yn nyfrffyrdd y DU i alluogi pobl i groesi afonydd dros bontydd ac i reoleiddio llif afonydd, ac mae’n rhad ac yn hawdd ei osod i’r rhwystrau hyn.

Profodd y tîm deils a gafodd eu dylunio’n arbennig gydag arwynebau â gwead iddyn nhw o dan amodau tebyg i afonydd sy'n llifo'n gyflym a gafodd eu hail-greu yn eu labordai yn Ysgol Peirianneg y Brifysgol.

Yn ôl yr astudiaeth, a gafodd ei chyhoeddi yn Ecological Engineering, mae llyswennod yn nofio i fyny’r afon mewn niferoedd uwch ar ôl ychwanegu teils at y rhannau cyflymder uchel hyn, gan roi cyfleoedd i’r pysgod rheidden-asgellog orffwys a chadw eu hegni ar gyfer y daith ymhellach i fyny'r afon.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae eu canfyddiadau'n cynnig ateb newydd i gadwraethwyr o ran teithiau pysgod a allai helpu i ailgysylltu afonydd ar gyfer y llysywen Ewropeaidd (Anguilla anguilla), gan arafu gostyngiad yn y boblogaeth  o bosib, a bod o fudd i'r amgylchedd.

Dywedodd Mr Guglielmo Sonnino Sorisio, myfyriwr PhD yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac awdur arweiniol yr astudiaeth: "Mae llyswennod ifanc sy'n mudo i ddyfroedd croyw o Fôr y Sargasso yn wynebu llu o heriau, gan gynnwys cerrynt newidiol, dyfroedd llygredig, rhwystrau cemegol, pwysau gan bysgotwyr a chlefydau.

"Mae ein hastudiaeth yn mynd i'r afael â rhwystrau ffisegol a wnaed gan bobl, sy'n rhannu, datgysylltu, ac yn lleihau nifer y cynefinoedd sydd ar gael i'r rhywogaeth. Mae'r strwythurau hyn, a gafodd eu hadeiladu ar gyfer croesfannau ffyrdd ac er mwyn atal llifogydd, yn creu llif dŵr cyflymder uchel sy'n ei gwneud hi'n anodd i'r llyswennod ifanc nofio drwyddyn nhw.

Fodd bynnag, yn ein harbrawf yn y labordy, dangoson ni fod gosod teils i wely sianeli dŵr mawr, wedi’u dylunio i gynrychioli amodau afonydd go iawn, yn lleihau cyflymder y llif, gan alluogi llyswennod i nofio i fyny'r afon yn llwyddiannus a defnyddio llai o egni yn rhan o’r broses.
Guglielmo Sonnino Sorisio

Dangosodd eu harbrawf hefyd dechneg nofio anghymesur newydd roedd y llyswennod yn ei defnyddio.

Ychwanegodd Mr Sonnino Sorizing: "Roedd yn syndod gweld pa mor dda a pha mor gyflym yr addasodd y llyswennod eu technegau nofio i'r amgylchedd newydd. Roedd yn lleihau’r egni’r oedden nhw’n ei ddefnyddio, ac yn eu galluogi i fanteisio'n llawn ar y cyflymder llai o ganlyniad i’r teils."

Arbrawf y tîm yw'r cyntaf o'i fath i fesur effeithiolrwydd teils i lyswennod mewn rhannau cyflymder uchel afonydd, ac i ddangos bod defnyddio’r teils yn lleihau faint o egni sy’n cael ei ddefnyddio.

Mae'r dechnoleg sy'n dod i'r amlwg eisoes wedi'i defnyddio'n llwyddiannus i helpu gyda’r daith mewn cwlfertau a choredau ar hyd afonydd.

Dywedodd yr Athro Catherine Wilson, cyd-awdur ar yr astudiaeth yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: "Mae gan y teils y potensial i fod yn ateb addas ar gyfer llyswennod sy’n teithio i fyny'r afon lle mae’r dŵr yn llifo ar gyflymder uchel.

"Mae angen ymchwil pellach i sefydlu a all y teils hefyd weithio i rywogaethau eraill o bysgod."

Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gan ymchwilwyr o Ysgolion Peirianneg a’r Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Gobaith y tîm yw gweithio gyda'r ddau sefydliad hyn i ychwanegu teils i lyswennod at y rhwydwaith ehangach o atebion ar gyfer teithiau pysgod, gan helpu i adfer llwybrau mudo.

Ychwanegodd yr Athro Jo Cable, un arall o gyd-awduron yr astudiaeth o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd: "Mae gweithio law yn llaw â rhanddeiliaid i gyflwyno'r astudiaeth hon yn adlewyrchu cryfder Prifysgol Caerdydd ym maes ymchwil ryngddisgyblaethol.

"Mae'r wybodaeth a ddaeth i law o'n hastudiaeth yn darparu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen ar Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru i barhau i ddefnyddio teils i lyswennod yn ein dyfrffyrdd. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr effeithiau cadarnhaol y bydd hyn yn eu cael ar iechyd afonydd yn y blynyddoedd i ddod."

Mae’r astudiaeth, ‘Fish passage solution: European eel kinematics and behaviour in shear layer turbulent flows’, wedi’i chyhoeddi yn Ecological Engineering.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn croesawu’r ffaith bod cydweithwyr yn cymryd rhan yn ein hymchwil drawsddisgyblaethol.