A yw rhoi genedigaeth yn y dŵr yn ddiogel?
11 Mehefin 2024
Mae ymchwil newydd wedi cadarnhau bod rhoi genedigaeth yn y dŵr mor ddiogel â gadael y dŵr cyn geni i’r menywod hynny sydd â beichiogrwydd heb gymhlethdod.
Astudiodd ymchwilwyr brofiadau geni dros 87,000 o fenywod â beichiogrwydd heb gymhlethdod a aeth i’r dŵr yn ystod y cyfnod esgor i fod yn fwy cyfforddus ac er mwyn lleddfu’r boen. Nod yr astudiaeth oedd canfod a yw aros yn y dŵr i roi genedigaeth yr un mor ddiogel i famau a'u babanod â gadael y dŵr cyn geni.
Dywedodd yr Athro Julia Sanders, Athro Bydwreigiaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a arweiniodd y tîm ymchwil: “Yn y DU mae tua 60,000 o fenywod y flwyddyn yn defnyddio pwll neu fath geni i leddfu’r boen yn y cyfnod esgor, ond roedd rhai bydwragedd a meddygon yn pryderu y gallai rhoi genedigaeth yn y dŵr achosi risgiau ychwanegol. Mae adroddiadau y gallai babanod fynd yn ddifrifol wael, neu hyd yn oed farw, ar ôl cael eu geni yn y dŵr, a bod mamau yn fwy tebygol o rwygo’n ddifrifol neu golli llawer o waed, ond does dim ymchwil sylweddol yn y DU i gadarnhau hyn. Felly, roedd angen astudiaeth ymchwil fawr i edrych ar ddiogelwch geni mewn dŵr.”
Canolbwyntiodd astudiaeth POOL, a gafodd ei harwain gan Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd, ar gofnodion y GIG gan 87,040 o fenywod a ddefnyddiodd bwll yn y cyfnod esgor rhwng 2015 a 2022, mewn 26 o sefydliadau’r GIG yng Nghymru a Lloegr. Astudiodd yr ymchwilwyr gyfraddau rhwygiadau difrifol yr oedd menywod yn eu profi, cyfraddau’r babanod a oedd angen gwrthfiotigau neu gymorth i anadlu mewn uned newyddenedigol, yn ogystal â chyfraddau’r babanod a oedd yn marw.
“Prif nod ein hastudiaeth oedd ateb cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn gyffredin gan fenywod sy’n defnyddio pwll neu fath geni yn ystod y cyfnod esgor, sef a ddylen nhw aros yn y dŵr neu adael y dŵr i roi genedigaeth os yw’r cyfnod esgor yn parhau heb gymhlethdodau.”
Yn gyffredinol, daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad fod tua hanner yr holl fenywod a ddefnyddiodd bwll yn y cyfnod esgor wedi rhoi genedigaeth yn y dŵr.
Dangosodd yr ymchwilwyr fod tua un o bob ugain o famau am y tro cyntaf, ac un o bob cant o famau a oedd yn cael eu hail, trydydd neu bedwerydd babi, wedi cael rhwyg difrifol. Roedden nhw hefyd wedi canfod bod tua thri o bob cant o fabanod angen gwrthfiotigau neu gymorth anadlu mewn uned newyddenedigol ar ôl cael eu geni, ac roedd marwolaethau babanod yn anghyffredin. Ond roedd cyfraddau'r rhain a chymhlethdodau eraill yn debyg ar gyfer genedigaethau yn y dŵr ac allan ohono.
Dangosodd eu data fod cyfraddau genedigaeth Gesaraidd yn isel - llai na 6% ar gyfer mamau a oedd yn rhoi genedigaeth am y tro cyntaf a llai nag 1% ar gyfer mamau yn cael eu hail, trydydd neu bedwerydd babi.
Dywedodd yr Athro Chris Gale, Neonatolegydd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Chelsea a San Steffan yn Llundain: “Mae llawer o bediatregwyr a neonatolegwyr yn poeni y gallai geni mewn dŵr achosi risgiau ychwanegol i’r babanod, ond mae’r astudiaeth yn ein hargyhoeddi nad yw hyn yn wir yn achos beichiogrwydd anghymhleth.”
Dywedodd Rachel Plachcinski, cynrychiolydd rhieni ar y tîm astudio a chyn-athrawes gyn-geni: “Mae hefyd yn galonogol gweld bod bydwragedd yn sylwi ar broblemau posibl yn ystod y cyfnod esgor ac yn cynghori’r menywod hynny i adael y dŵr, fel bod mamau a’u babanod yn gallu cael eu monitro a derbyn gofal priodol.”
“Roedd ein hymchwil wedi sefydlu o safbwynt gwyddonol nad oedd rhoi genedigaeth yn y dŵr yn gysylltiedig â chynnydd mewn risg i’r fam a’r babi. Wrth ymchwilio i ddata’r GIG o dros 87,000 o enedigaethau yng Nghymru a Lloegr, rydyn ni wedi gallu darparu gwybodaeth a all roi’r grym yn nwylo mamau a bydwragedd, a’u cefnogi, wrth wneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod esgor,” ychwanegodd yr Athro Sanders.
Cafodd yr ymchwil, ‘Maternal and neonatal outcomes among spontaneous vaginal births occurring in or out of water following intrapartum water immersion: The POOL cohort study’, ei gyhoeddi yn BJOG, cyfnodolyn ymchwil academaidd swyddogol Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr.