Entrepreneuriaid ifanc yn llwyddo yn 14eg Seremoni Wobrwyo flynyddol Cychwyn Busnes a Chwmnïau Llawrydd y Myfyrwyr
29 Mai 2024
Mae deuddeg o fyfyrwyr ifanc sy'n entrepreneuriaid wedi bod yn fuddugol yn Seremoni Wobrwyo flynyddol Cychwyn Busnes a Chwmnïau Llawrydd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Yn ystod y gystadleuaeth, daeth 22 o fusnesau uchelgeisiol benben â’i gilydd ar ffurf rhaglen Dragon's Den i gyflwyno eu syniad busnes mewn ystod o gategorïau. Dyfarnwyd cyfran o'r wobr gwerth £18,000 i’r enillwyr ym mhob categori a gallan nhw ddefnyddio’r arian i ehangu eu busnesau. Bydd Tîm Menter a Chychwyn Busnes y Brifysgol yn eu mentora ac yn rhoi cymorth parhaus iddyn nhw.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn sbarc|spark ar 1 Mai, sef penllanw tridiau o gyflwyno syniadau busnes cyffrous ac ysbrydoledig gan y myfyrwyr i banel o feirniaid arbenigol. Yn ogystal â dewis y beirniaid, am y tro cyntaf eleni cafwyd pleidlais fyw gan y gynulleidfa er mwyn i’r myfyrwyr eraill allu pleidleisio a chymryd rhan. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r sawl a gymerodd ran ddathlu gyda'u cyd-fyfyrwyr a rhwydweithio â staff y Brifysgol a phartneriaid allanol allweddol, gan ymarfer y sgiliau meddal a fydd yn eu helpu wrth iddyn nhw ddatblygu eu busnesau.
Bu’r myfyrwyr yn cystadlu mewn 4 categori – Gwobr y Sylfaenydd Eithriadol, Gwobr y Datblygiad Arloesol a Gwobr y Syniadau Ysbrydoledig a noddir gan Santander Universities, a Gwobr y Peirianwyr Ysbrydoledig a noddir gan Engineers in Business.
Gwobr y Sylfaenydd Rhagorol
Cipiwyd prif wobr y Sylfaenydd Eithriadol gwerth £5000 gan y myfyriwr israddedig Hanes a Gwleidyddiaeth Modern yn y flwyddyn gyntaf, Elliot Allen. Elliot yw sylfaenydd MoveMe, cwmni symud a storio i fyfyrwyr sy'n arbenigo mewn symud o lety’r flwyddyn gyntaf i dŷ yn yr ail flwyddyn.
Dyma a ddywedodd Eliot: "Roedd rhaglen Gwobrau Cychwyn Busnes Prifysgol Caerdydd yn brofiad amhrisiadwy, gan helpu pawb a gymerodd ran i ennill profiad yn y byd go iawn tra eu bod yn gwneud cysylltiadau defnyddiol, ac roedd yr arian a gefais i yn sgil y wobr wedi gweddnewid fy musnes. Rwy'n defnyddio'r cyllid i brynu fan i wneud y gwaith symud ac mae wedi helpu i dalu am y gost gychwynnol fwyaf, ac rydyn ni wrthi'n prynu pecyn marchnata gan Undeb y Myfyrwyr i helpu i hysbysebu ac ehangu'r busnes."
Yn ail: Yaqoob Ahmad (myfyriwr israddedig Busnes a Rheolaeth yn yr ail flwyddyn) a Josh Gill (Myfyriwr Graddedig Cyfrifiadureg 2022) - Templog Ltd
Enillydd y gynulleidfa: Faheem Islam (myfyriwr israddedig Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol yn yr ail flwyddyn) - GULI Shots Ltd
Gwobr y Datblygiad Arloesol
Yng Ngwobr y Datblygiad Arloesol, enillodd Calvin Bang, myfyriwr israddedig Rheoli Busnes Rhyngwladol yn y bedwaredd flwyddyn, y brif wobr gwerth £3000 gyda'i fusnes diodydd Taff Cola Ltd. Roedd Calvin hefyd yn rownd derfynol Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn (Cymru) eleni yn Seremoni Wobrwyo Cychwyn Busnes y DU.
Dyma a ddywedodd Calvin: "Rydyn ni’n hynod o falch bod Taff Cola Ltd wedi cael ennill Gwobr Datblygiad Arloesol 2024. Bydd arian y wobr yn cyflymu’r cam nesaf, sef masgynhyrchu! Rydyn ni wedi ymrwymo i ddemocrateiddio diwydiant diodydd meddal Cymru drwy fod yn dryloyw ac yn onest, rhywbeth mae ei wir angen, yn ein barn ni."
Yn ail ac enillydd y gynulleidfa: Jenn Goodge (MSc Marchnata) - Paw Dogs
Gwobr y Syniadau Ysbrydoledig
Enillodd AbdulAlim U-K, myfyriwr MSc Cyfrifiadura Wobr y Syniadau Ysbrydoledig. Ar ben hyn, enillodd wobr y gynulleidfa, gan ennill cyfanswm o £1500 tuag at ehangu ei fusnes Horizun. Platfform ymdrochol yw Horizun sy'n defnyddio technoleg realiti estynedig a rhithffurfiau deallusrwydd artiffisial i roi asesiadau gyrfaol ac efelychiadau swydd pwrpasol i fyfyrwyr coleg ac israddedig. Mae'r profiad unigryw hwn yn llenwi’r bwlch ym maes canllawiau gyrfaol traddodiadol a hen ffasiwn, gan roi senarios difyr, ymarferol yn y byd go iawn sy’n arwain at dewisiadau gyrfaol mwy cytbwys.
Dyma a ddywedodd Abdul Alim: "Mae cymorth tîm menter myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn bwysig iawn yn fy musnes drwy fy ngalluogi i ymarfer fy nghyflwyniadau syniad busnes, cynnal cyfarfodydd mentoriaid busnes a fy nghyfeirio at ddigwyddiadau gwerth chweil. Rwy'n bwriadu defnyddio arian y wobr i ehangu ymchwil a datblygu er mwyn creu Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw tra'n gwneud cysylltiadau ag arbenigwyr a rhanddeiliaid ym myd diwydiant."
Yn ail: Mengxing Zhou (PhD yn y Gwyddorau Cymdeithasol) - Global Mindset Training
Gwobr y Peirianwyr Ysbrydoledig
Cipiwyd y brif wobr gwerth £1500 yng Ngwobr y Peirianwyr Ysbrydoledig gan y ddau fyfyriwr mentrus Hajira Irfan, myfyriwr israddedig Peirianneg Integredig yn yr ail flwyddyn, a Harry Parkinson, myfyriwr israddedig Ffiseg gyda Seryddiaeth yn yr ail flwyddyn, am eu syniad, sef The Algae Photobioreactor. Eu syniad, a gafodd ei ysbrydoli gan waith Dr Ivan Spasojević, yw dylunio ffoto-fioreactor trefol ar gampws Caerdydd sy'n defnyddio pŵer microalgâu i dynnu CO2 o'r awyr, gan helpu'r Brifysgol i gyrraedd ei nod, sef bod yn sefydliad gwyrddach.
Dyma a ddywedodd Hajira a Harry: "Mae ennill y brif wobr wedi datgloi byd o gyfleoedd i'n prosiect gan nad yw cyllid bellach yn ein cyfyngu, ac mae gwybod bod y beirniaid yn credu yn ein syniad wedi cryfhau ein hyder. Mae Prifysgol Caerdydd wedi rhoi cymaint o gymorth inni wrth inni ddatblygu ein syniad ac rydyn ni wedi elwa cymaint ar gael academyddion mewn cyfadrannau gwahanol wrth law sydd wedi bod yn awyddus i'n helpu. Dyw'r gymuned academaidd yma ddim fel unrhyw un arall, ac mae'r cydweithio rhwng adrannau wedi sbarduno syniadau fel yr un sydd gynnon ni."
Yn ail: Matas Jarutis (Myfyriwr israddedig Peirianneg Feddygol yn y flwyddyn olaf) - Kanso Sense
Yn drydydd: Jack Willipotte (Myfyriwr israddedig Peirianneg Sifil yn y flwyddyn olaf) - Homeowners Construction Help
Wrth ganmol pawb a gymerodd ran, dyma a ddywedodd Georgina Moorcroft, Uwch-reolwr Menter Myfyrwyr a Chychwyn Busnes: "Digwyddiad blynyddol o bwys yw’r Seremoni Wobrwyo Cychwyn Busnes a Chwmnïau Llawrydd pan fyddwn ni’n dathlu gwerth blwyddyn gyfan o lwyddiant."
Parhaodd hi: "Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at y seremoni wobrwyo eleni a diolch yn fawr iawn a llongyfarchiadau i'r holl fyfyrwyr a graddedigion a gymerodd ran, dylai pob un ohonoch chi fod yn hynod falch ohonoch chi'ch hun. Rwy'n credu y byddwn ni’n gweld rhai o'r enwau hyn yn ymddangos unwaith eto yn y dyfodol!"
Gall ennill yn y Seremoni Wobrwyo Cychwyn Busnes a Chwmnïau Llawrydd gael effaith enfawr ar ddatblygu syniad busnes. Enillydd Gwobr y Sylfaenydd Eithriadol y llynedd yw Lucy Wooldridge, myfyrwraig israddedig yn y Gyfraith yn y drydedd flwyddyn, a hi yw sylfaenydd Lolli Lifting – brand offer ffitrwydd i fenywod. Defnyddiodd Lucy arian y wobr gwerth £5000 i ehangu ei hystod o gynnyrch a buddsoddi mewn ffotograffiaeth broffesiynol i wella ei chyfryngau cymdeithasol a'i gwefan. Ers ennill mae hi wedi partneru â nifer o leoliadau PureGym ledled y wlad i gynyddu gwelededd ei busnesau yn y farchnad ac mae bellach yn rhan o Arloesi Caerdydd yn sbarc|spark.
Dyma a ddywedodd Rhys Pearce Palmer, Rheolwr Gweithrediadau Arloesi yn Arloesi Caerdydd: "Lle delfrydol yw'r Brifysgol i fyfyrwyr creadigol fynd ati i gychwyn busnes newydd. Mae arbenigedd academaidd o’u hamgylch nhw, ac ar ben hynny gallan nhw fanteisio ar y cyfoeth o gysylltiadau busnes a diwydiant sydd gan y Brifysgol. Gall myfyrwyr a graddedigion diweddar sy'n cychwyn busnes ymuno â chymuned Arloesi Caerdydd yma yn sbarc|spark lle gallan nhw greu cysylltiadau â busnesau o sectorau gwahanol a gwahanol gamau o dwf. Mae gennym ethos cymunedol cryf, sef rhannu gwersi a phrofiadau i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyngor, yr arbenigedd a’r cymorth gorau."