Modiwl cyfrwng Cymraeg newydd sydd yn canolbwyntio ar reoli busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig
6 Mehefin 2024
Mae’r modiwl cyfrwng Cymraeg cyntaf o’i faith erioed sy'n archwilio rheoli busnesau bach wedi’i lansio yn Ysgol Busnes Caerdydd, gan ganiatáu i fyfyrwyr a staff gymryd rhan mewn dysgu ac addysgu Cymraeg.
Caiff ei ddysgu i fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf sy'n astudio Rheoli Busnes (BSc), a chafodd y modiwl dewisol 'Rheoli Busnesau Bach' ei gyflwyno gyntaf yn ystod semester Gwanwyn 2024.
Mae cyflwyno'r modiwl yn unol â Strategaeth y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, sy'n cynnwys croesawu diwylliant Cymraeg a sicrhau bod mwy o fyfyrwyr yn gallu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn rhan o ymdrech ehangach i ymgorffori addysgu Cymraeg yn Ysgol Busnes Caerdydd ac mae'n cydnabod ein rhwymedigaethau i Gymru fel prifysgol y brifddinas.
Meddai'r Athro Eleri Rosier, sy'n dysgu ar y modiwl:
Wrth greu'r modiwl, mae staff wedi datblygu adnoddau ym maes rheoli, marchnata, arweinyddiaeth a chyfrifeg. Bydd yr adnoddau newydd hyn yn helpu myfyrwyr i:
- Asesu'r pwysau cystadleuol, sefydliadol a rheoleiddiol sy'n wynebu rheolwyr busnesau bach.
- Gwerthuso sut mae llywodraethau Cymru a'r DU yn effeithio ar yr amgylchedd lunio busnesau bach.
- Deall sut mae rheolwyr busnesau bach wedi mynd i'r afael â heriau ar draws pynciau fel cyllid, strategaeth, cydymffurfiaeth reoleiddiol, arloesi a marchnata.
- Ennill sgiliau a gwybodaeth sy'n drosglwyddadwy i reoli busnesau bach a chymhwyso gwybodaeth a addysgir i fusnes bach yng Nghaerdydd drwy asesiad astudiaeth achos.
Mae adborth myfyrwyr am y modiwl wedi bod yn bositif. Dywedodd un myfyriwr:
"Dewisais y modiwl Rheoli Busnes Bach oherwydd fy mod i wedi gwneud fy addysg trwy’r iaith Gymraeg ac roedd hwn yn gyfle i mi ymarfer yr iaith trwy adnoddau darllen a sgwrsio yn y darlithiau. Dewisais y modiwl hefyd oherwydd mae gen i aelodau o’r teulu sy’n berchen a busnesau bach eu hunain. O ganlyniad, bydd gwella fy ymwybyddiaeth am fusnesau bach yn fy helpu yn y dyfodol... Rwyf yn gwerthfawrogi’r ffaith fod gen i gyfle i ddewis cwrs ble gallai dysgu fwy am elfennau hanfodol fel cyllid, strategaeth, arloesi, marchnata a sut mae nodweddion arferion rheoli penodol mewn busnesau bach yn cael eu heffeithio gan amgylcheddau sefydliadol a'r farchnad."
Mae staff Ysgol Busnes Caerdydd sy'n ymwneud â datblygu'r modiwl yn cynnwys:
- Yr Athro Eleri Rosier
- Dr Leon Gooberman
- Dr Robert Bowen
- Dr Kevin Evans
- Yr Athro Kevin Holland
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio'r Gymraeg a'i diwylliant ochr yn ochr â phrif elfennau gradd Rheoli Busnes, mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig y rhaglen radd Rheoli Busnes gyda'r Gymraeg (BSc).