Safleoedd cynghrair newydd yn amlygu boddhad myfyrwyr
5 Mehefin 2024
Mae Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd unwaith eto ymhlith y deg ysgol astudiaethau newyddiaduraeth a chyfathrebu orau yn y DU yn ôl Complete University Guide 2025 a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Yn y canllaw, sy'n crynhoi data sydd ar gael i'r cyhoedd megis safonau mynediad, cymarebau myfyrwyr-staff, gwariant ar gyfleusterau a rhagolygon graddedigion, daeth yr Ysgol yn nawfed allan o 90 o sefydliadau ledled y wlad. Yr Ysgol hefyd oedd yr adran brifysgol orau yng Nghymru.
Mae'r Ysgol hefyd wedi cynnal ei safle yn rhestr ddiweddaraf QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc, ac mae wedi bod ymhlith y 50 adran cyfathrebu ac astudiaethau’r cyfryngau orau ledled y byd ers wyth mlynedd.
Mae'r canlyniad hwn yn golygu bod yr Ysgol yn y seithfed safle yn y DU ac yn pwysleisio mai Prifysgol Caerdydd yw un o brifysgolion gorau'r wlad.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Dr Matt Walsh: “Rydyn ni bob amser wedi bod yn falch iawn o'r amgylchedd arbennig rydyn ni’n ei greu i'n myfyrwyr a'n staff, lle gall pawb wireddu ei botensial.”
“Mae ein llwyddiant parhaus yn dangos ein bod yn cynnig cyfuniad cystadleuol iawn o addysgu ac ymchwil o safon, rhagolygon graddedigion, bywyd dinas a chymorth i fyfyrwyr a'n bod yn parhau i fod yn un o'r ysgolion gorau yn y DU ym meysydd newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu.”