Myfyriwr PhD o Brifysgol Caerdydd wedi'i benodi'n aelod o goleg cyntaf o’i fath i arbenigwyr ar yr amgylchedd
3 Mehefin 2024
Mae myfyriwr PhD o Brifysgol Caerdydd wedi'i benodi'n aelod o Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd (OEP).
Dyfarnwyd y rôl hon i Martyn Evans ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi hysbyseb i aelodau gwirfoddol ymuno â’i choleg cyntaf erioed ar gyfer arbenigwyr yn haf 2023.
Cafwyd dros 1,000 o geisiadau ar gyfer 58 rôl wahanol, wrth i’r coleg newydd wneud ymgais i ddwyn ynghyd ystod o arbenigedd ym maes yr amgylchedd i ymdrin â meysydd cyfredol o ddiddordeb a rhai at y dyfodol.
Dyma a ddywedodd Martyn:
Aeth ymlaen i ddweud, “Rwy'n awchus i rannu fy arbenigedd er mwyn cefnogi’r ymgais i ddiogelu’r amgylchedd a’i gwella. Gwnes i gyflwyno cais yn seiliedig ar fy ymchwil ôl-ddoethurol i droseddau amgylcheddol, rheoli gwastraff a gorfodaeth. Ar ôl imi gael fy mhenodi, rhoddwyd gwybod imi mai canolog yw testun fy PhD, sef trosedd gwastraff a’r rôl y mae darlithio yn ei chwarae ar droseddeg werdd, i’r hyn y maen nhw’n ceisio ei gyflawni.”
Bydd Martyn yn ymgymryd â’i rôl newydd am gyfnod o dair blynedd, a bydd yn ymuno ag arbenigwyr mewn amryw o feysydd amgylcheddol, o’r byd academaidd, sefydliadau anllywodraethol, a chyrff y trydydd sector.
Hefyd, bydd rheoleiddwyr, cynrychiolwyr yn y diwydiant, a sefydliadau cyfraith a gorfodi yn rhan o goleg yr arbenigwyr.
Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Martyn wedi datblygu ei waith ar droseddau gwastraff, gan arddangos ei ddawn a’i arbenigedd ym maes troseddeg werdd a niweidiau cymdeithasol, yn ogystal ag ymchwil drosedd a chyfiawnder, mewn darlithoedd gwadd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.
Mae ganddo hefyd 18 mlynedd o brofiad helaeth i’w enw yn gweithio ar sawl mater yn ymwneud â pholisi amgylcheddol, rheoleiddio a gorfodi, a hynny ar gyfer y prif asiantaethau amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr.
Gorffennodd drwy ddweud, “Rwy’ o’r farn bod y rôl hon yng Ngholeg yr Arbenigwyr yn cynnig cyfle unigryw i bobl eirioli a chraffu ar bolisïau gwyrdd, a chodi hyd yn oed mwy o ymwybyddiaeth o’r rheoliadau amgylcheddol. Pwrpas hyn oll yw rhoi sbotolau ar bŵer ymchwil ac arloesi i gael effaith ar ein hamgylchedd, mewn sawl sector a gwlad, er mwyn creu dull unedig o fynd i’r afael â materion amgylcheddol.”
“Rwy’ wir yn awyddus i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, ac i fod o gymorth er mwyn ceisio ei wella ar gyfer cenedlaethau yn y presennol a’r dyfodol.”
Mynnwch ragor o wybodaeth am Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd (OEP) a throseddeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.