Dewch i gwrdd â Phennaeth newydd ein Hysgol
3 Mehefin 2024
Mae’r Athro Deborah Kays wedi’i phenodi’n Bennaeth yr Ysgol Cemeg ym mis Mehefin 2024
Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd, ymunodd yr Athro Kays â'n Hysgol ni o Brifysgol Nottingham, lle'r oedd hi’n Athro Cemeg Anorganig.
Ar ôl graddio gyda MChem o Brifysgol Caerdydd, ac yna PhD yn ymchwilio i synthesis ac adweithedd cymhlygion metelau trosiannol o boron, roedd gan yr Athro Kays Gymrodoriaeth Ymchwil Iau ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 2005 a 2007. Sefydlodd raglen ymchwil annibynnol yn ymchwilio i sefydlogi creiddiau metelau cyd-drefnol isel trosiannol a phrif grŵp, ac ymunodd â Phrifysgol Nottingham yn 2007.
I gydnabod ei llwyddiannau ymchwil, derbyniodd yr Athro Kays Wobr Cemeg Metelau Trosiannol gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn 2018.
Meddai’r Athro Kays: "Rwy'n falch iawn o ymgymryd â rôl Pennaeth yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd, sefydliad sy’n agos iawn at fy nghalon. Rwy’n teimlo bod dychwelyd i’r Brifysgol ble cefais fy ngraddau israddedig ac ôl-raddedig yn fy ngalluogi i roi’n ôl i’r gymuned roddodd hwb i fy ngyrfa academaidd yn y dyddiau cynnar hynny.’’
‘’Rwy’n edrych ymlaen at feithrin gweithle ac adran sy’n arloesi ac yn cydweithio, gan ehangu ar draddodiad cryf o ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil ym maes gwyddorau cemegol, ac i atgyfnerthu ein henw da ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.’’
"Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am yr hyn sydd o'n blaen ac rwy’n.