Dr Maryam Lotfi yn cael ei dewis ar gyfer rhaglen fawreddog Crwsibl Cymru
31 Mai 2024
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2817950/Maryam-Lotfi.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Dr Maryam Lotfi, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi Gynaliadwy yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi ennill lle nodedig yng Nghrwsibl Cymru 2024, sef rhaglen ddatblygu ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol.
Rhaglen uchel ei pharch yw Crwsibl Cymru i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol a meithrin eu sgiliau arwain. Bellach yn dathlu ei degfed flwyddyn, mae’r rhaglen yn hyrwyddo arloesi a ysgogwyd gan ymchwil a chydweithio traws-ddisgyblaethol.
Bob blwyddyn, mae 30 o ymchwilwyr rhagorol o bob rhan o Gymru yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai preswyl trochi - neu - labordai sgiliau. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle unigryw i ymchwilwyr gydweithio ar draws disgyblaethau, gwella effaith eu gwaith a meithrin gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol.
Cynhelir y labordai eleni yng Nghaerdydd, Gogledd Cymru ac Abertawe. Bydd y labordy cyntaf yng Nghaerdydd yn cynnwys sesiwn ysbrydoledig gyda’r Athro Wendy Larner, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, ymhlith y siaradwyr, a Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol dros Gymru, ymhlith y gwesteion.
Maes ymchwil Dr Lotfi yw cadwyni cyflenwi cynaliadwy, gyda ffocws ar faterion cymdeithasol gan gynnwys caethwasiaeth plant, caethwasiaeth fodern, hawliau gweithwyr, materion yn ymwneud â rhywedd a gwaith gweddus. Hi hefyd yw cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Caethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol.
“Mae cymryd rhan yng Nghrwsibl Cymru yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio amhrisiadwy ledled Cymru, gan ddarparu llwyfan i greu llwybrau ymchwil a chydweithio effeithiol. Bydd y profiad hwn yn fy ysbrydoli i feddwl yn greadigol ac arloesi yn fy nghynllun ymchwil, gan feithrin effaith ddyfnach. Fy nod yw lleoli Cymru fel arloeswr yn y maes, wrth sefydlu fy hun fel arweinydd ymchwil y dyfodol mewn caethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol o fewn cadwyni cyflenwi.”
Mae Crwsibl Cymru yn fenter gydweithredol a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.