Ewch i’r prif gynnwys

Penodi Darllenydd o Brifysgol Caerdydd yn aelod o fwrdd rheoleiddiwr gofal cymdeithasol Cymru

28 Mai 2024

A man smiling at the camera on a blank background

Penodwyd Darllenydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn aelod o fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, sef y corff rheoleiddio dros waith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Enwyd Abyd Quinn Aziz gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn un o’i benodiadau newydd yn sgil recriwtio agored yn 2023.

Un ymhlith 5 o aelodau eraill a benodwyd i ddechrau eu rolau eleni yw Mr Quinn Aziz, a bydd yr 6 aelod arall yn dechrau yn y flwyddyn ganlynol.

Mae gan ybwrdd gyfrifoldeb ar y cyd dros wneud yn siŵr bod cyfeiriad strategol Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar nodau lles yng Nghymru.

Dyma a ddywedodd Mr Quinn Aziz:

Pleser o’r mwyaf yw cael fy mhenodi’n aelod o fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Fy ngobaith yw cefnogi gwaith da Gofal Cymdeithasol Cymru, yn ogystal â herio’r meysydd hynny y mae angen eu datblygu ymhellach, a hynny yng nghyd-destun ymarfer, addysg a gwelliannau ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Abyd Quinn-Aziz First and Second Year Tutor on Diploma and MA in Social Work

“Bydda’ i’n gweithio gyda 14 o aelodau lleyg a gofal cymdeithasol eraill ar y bwrdd sy’n dod o amryw o gefndiroedd megis y rheiny â phrofiad bywyd o ddefnyddio gwasanaethau ac uwch-swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gwleidyddiaeth ac ymarfer.”

Daw ei benodiad yn sgil cael ei awgrym gan gydweithiwr sy’n gweithio ar wrth-hiliaeth yn Llywodraeth Cymru a oedd wedi hyrwyddo’r cyfoeth o brofiad sydd gan Mr Quinn Aziz ym maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, ynghyd â’i waith ar hiliaeth a chyfiawnder cymdeithasol.

Ychwanegodd, “Yn ogystal â’r profiad hwn, mae’r ffaith fy mod yn fewnfudwr i’r DU ac yn berson o liw yn fy helpu’n fawr i ddeall y maes a llywio fy ngwaith. Bydd cael fy ngwahodd i fod ynghlwm â gwaith y bwrdd yn rhoi’r cyfle imi oresgyn ambell rwystr a dod â llais gwahanol i’r bwrdd.

Bydd cyn-gyfarwyddwr Rhaglen Meistr Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (y mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei achredu a’i reoleiddio) yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg a darpariaeth gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

Penodwyd Mr Quinn Aziz i’r bwrdd ar ôl 25 mlynedd o brofiad mewn rolau personol, proffesiynol, ymarferol a rheoli ym maes gofal cymdeithasol.

Cyn hynny, sefydluodd wasanaethau yn Llundain a Chymru cyn mynd ati i addysgu ar y rhaglen gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, a hynny ers 20 mlynedd.

Ymhlith ei rolau mwyaf diweddaraf oedd cadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant a sefydlu prosiect cyntaf Cynadledda Grŵp y Teulu cyntaf yn ne Cymru.

Bydd y rôl hon ar fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn para am 4 blynedd, gan ddechrau ym mis Ebrill 2024, yn sgil cymeradwyaeth gan y gweinidog.

Rhagor o wybodaeth am Gofal Cymdeithasol Cymru a meistr Gwaith CymdeithasolPrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon