Ewch i’r prif gynnwys

Enwebiadau Gwobrau Cyn-fyfyrwyr (tua)30 2024 ar agor

28 Mai 2024

A group of winners at the 2023 30ish awards

Yn dilyn eu llwyddiant yn 2022 a 2023, mae'r Gwobrau (tua)30 yn dychwelyd i ddathlu a rhannu straeon y rhai sydd wedi creu newid, wedi arloesi ac wedi torri’r rheolau yng nghymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Byddwn ni’n cydnabod rhestr o gyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymuned cyn troi’n 30 oed. Wel, (tua) 30 oed.

Mae'r enwebiadau ar agor, felly p'un a ydych chi'n cymryd yr awenau ac yn enwebu eich hun, neu'n adnabod arloeswr arall sy’n haeddu cydnabyddiaeth yn eich barn chi, cofiwch gyflwyno'ch cais erbyn 21 Gorffennaf 2024.

Bydd yr holl enillwyr (a'r aelod o staff sydd wedi’u henwebu - os oes un) yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad Gwobrau (tua)30, ddydd Iau 10 Hydref yn adeilad sbarc | spark, wedi’i gyflwyno gan yr Is-Ganghellor. Fydd dim angen i chi wisgo'r tei du traddodiadol - prif nod y digwyddiad yw rhwydweithio gyda phobl alluog o’r un anian.

Rydyn ni am gyflwyno rhywbeth newydd ar gyfer 2024 sef Gwobr yr Is-Ganghellor a fydd yn cael ei chyflwyno i un enillydd arbennig ar y noson. Mae'r wobr boblogaidd 'Dewis y Bobl' yn dychwelyd ar gyfer 2024, ac mae cyn-fyfyrwyr a chymuned Prifysgol Caerdydd yn pleidleisio dros hon. Y llynedd, cafodd dros 30 o gyn-fyfyrwyr eithriadol eu cydnabod gyda gwobrau am arloesi, creadigrwydd, gwaith da yn eu cymuned neu ar gyfer yr amgylchedd, a rhagoriaeth yn eu maes. Ymhlith yr enillwyr roedd yr optometrydd Lucky Aziken (MSc 2023), ymgyrchydd yr amgylchedd Aleena Khan (BSc 2020, MSc 2023), y newyddiadurwr James Smart (MA 2016), a'r datblygwr Cellan Hall (BSc 2019, MSc 2021).

Gwyliwch y fideo

Dewch i adnabod cyfraniadau cyn-fyfyrwyr a chymryd y cyfle iddyn nhw (neu eich hunain) gael noson o rwydweithio â chyn-fyfyrwyr arloesol eraill o Brifysgol Caerdydd. Dysgwch ragor a chyflwyno’ch enwebiadau.