Pontio’r blwch hygyrchedd ym maes gwyddor data
28 Mai 2024
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn datblygu ffyrdd o bontio’r blwch hygyrchedd ym maes gwyddor data, a hynny’n rhan o’r Gynghrair Ymchwil ac Addysg Fyd-eang ar gyfer Technoleg Hygyrch (GREAAT).
Mae’r tîm o Academi Gwyddor Data’r Brifysgol, ar y cyd ag arbenigwyr o bob rhan o’r DU, UDA a Chanada, yn mapio tirwedd fyd-eang hygyrchedd data ac yn nodi gofynion penodol ar gyfer sectorau, gan gynnwys prifysgolion, busnesau bach a chanolig, corfforaethau mawr ac endidau’r llywodraeth.
Boed diwallu anghenion pobl ag anableddau neu ddarparu ar gyfer busnesau a sefydliadau academaidd sy’n ymdrechu i sicrhau eu bod yn gynhwysol, mae’r tîm yn dweud bod ateb y galw am atebion data hygyrch o’r pwys pennaf.
Dywedodd Dr Fernando Loizides, Cyfarwyddwr yr Academi Gwyddor Data yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: “Mae hygyrchedd yn aml yn chwarae dal i fyny, yn hytrach nag yn cael ei ystyried o’r dechrau ym mron popeth.
“Mae deallusrwydd artiffisial, er enghraifft, wedi’i hyfforddi ar sail modelau sydd ddim yn gynhwysol i hwyluso dealltwriaeth o sut i ryngweithio ag unigolion niwrowahanol.
“I fynd i’r afael â hyn, rydyn ni’n ymchwilio i ffyrdd o wneud hygyrchedd yn rhan o’r cwricwlwm, gan fapio cyfleoedd yn fyd-eang i’n cymuned gefnogi ei gilydd a thynnu sylw at hygyrchedd ym meysydd addysg a chreu systemau.”
Yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan Darganfod Hygyrchedd Google yn Llundain, cynhaliodd y rhwydwaith gyfres o weithdai i fynd i’r afael â heriau cymhleth, nodi anghenion sylfaenol a dyfeisio atebion arloesol.
Yn y gweithdai, defnyddiwyd strategaeth meddwl yn greadigol Disney. Dyma broses taflu syniadau syml at ddibenion creu cynhyrchion ac atebion newydd i broblemau, sy’n cynnwys tri cham – y Breuddwydiwr, y Realydd a’r Critig – wedi’u cynnal ar wahân heb unrhyw orgyffwrdd.
Ychwanegodd Dr Loizides: “Roedd ein gweithdai yn swyddfeydd Google yn tanlinellu’r angen am hygyrchedd ym maes gwyddor data ac yn rhoi hwb i’n hymdrechion i hybu hygyrchedd yn fyd-eang.
“Wrth symud ymlaen, byddwn ni’n parhau i feithrin ein rhwydwaith amlddisgyblaethol cadarn, gan feithrin cynghreiriau â gwahanol randdeiliaid, y bydd arweinwyr yn y byd academaidd a’r diwydiant yn eu plith, gyda’r nod o ysgogi newid ystyrlon mewn sectorau.
“I ni ym Mhrifysgol Caerdydd, mae hyn yn golygu hyrwyddo ac arwain menter fyd-eang fydd o fudd i filiynau o bobl ac, yn fwy na hynny, yn cyfrannu at amgylchedd addysgu ac ymchwil mwy cynhwysol yn y Brifysgol. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth allwn ni ei gyflawni.”
Mae GREAAT, a ddechreuodd yn ymarfer cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Maryland, Prifysgol McGill, Prifysgol Abertawe, Coleg y Brenin Llundain a Phrifysgol Efrog, wedi datblygu i gynnwys mwy na 20 o brifysgolion ledled y byd.
Yn ddiweddar, sicrhaodd y rhwydwaith gymorth grant sbarduno gan Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd i’w helpu i ddatblygu a symud ymlaen.