Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgelloedd ledled Cymru a Lloegr i ddod yn gartref i lyfr academydd ar gyfathrebu ym maes dementia

23 Mai 2024

Casgliad o lyfrau

Mae llyfr gan arbenigwr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i ddewis ar gyfer casgliad ‘Darllen yn Well ar gyfer dementia’ The Reading Agency.

Mae’r llyfr Why Dementia Makes Communication Difficult, a ysgrifennwyd gan yr Athro Alison Wray, ymhlith un o 21 o lyfrau a ddewiswyd gan yr elusen genedlaethol ar gyfer ei chasgliad wedi’i guradu o lyfrau ac adnoddau a fydd ar gael ym mhob llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru a Lloegr.

Gall gwybodaeth a chyngor o ansawdd uchel mewn llyfrau sy’n helpu pobl i ddeall a dod i wybod am ddementia chwarae rôl bwysig yn y gwaith o gefnogi pobl y mae dementia’n effeithio arnyn nhw, yn arbennig o ystyried y bydd dementia’n effeithio ar un ym mhob dau ohonon ni yn ystod ein hoes.

Dywedodd yr Athro Wray, sy’n gweithio yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol: Mae dementia'n gyflwr cymhleth iawn sy'n effeithio ar bob agwedd ar brofiad person, ac mae’n cael effaith gynyddol ar aelodau’r teulu, gofalwyr proffesiynol a chymdeithas yn ehangach. Mae ein hawydd i gyfathrebu ac ymgysylltu wrth wraidd llawer o'r problemau hyn. Pan ddaw hyn yn anodd, mae pobl fel arfer yn teimlo'n bryderus ac yn rhwystredig.

“Mae fy llyfr yn cynnig atebion ymarferol bob dydd i oresgyn yr anawsterau cyfathrebu sy’n gysylltiedig â dementia. Dw i’n gobeithio, o sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael yn rhwydd mewn llyfrgelloedd, y bydd mwy o bobl yn gallu cael y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.”

Mae’r casgliad newydd wedi’i ddewis a’i gymeradwyo gan arbenigwyr iechyd, elusennau a phobl y mae dementia’n effeithio arnyn nhw. Mae’n cynnwys gwybodaeth hanfodol a straeon personol i wella dealltwriaeth o’r cyflwr ymhlith y rhai sy’n byw gyda dementia, ynghyd ag adnoddau i ofalwyr a llyfrau oedran-briodol i blant.

Dywed Angela Rippon CBE, newyddiadurwr a darlledwr arobryn a llysgennad y casgliad: “Dw i wedi ymwneud yn fawr â byd ymwybyddiaeth o ddementia, ar ôl gofalu am fy niweddar fam wnaeth ddioddef gan y clefyd. Dw i’n falch iawn o weld bod The Reading Agency wedi datblygu’r casgliad hwn o lyfrau i annog pobl i ddod i wybod am ddementia. Pan ddatblygodd fy mam ddementia 20 mlynedd yn ôl, ychydig iawn roeddwn i'n ei wybod amdano. Roedd angen llawer iawn o help arna i er mwyn dysgu sut i ymdopi a helpu fy mam i fyw’n dda gyda’r clefyd. Dw i’n credu y bydd y casgliad yn gam ymlaen. Y llyfrau fydd y catalydd fydd yn dod â phobl ynghyd, yn gwella eu gwybodaeth ac yn eu haddysgu er mwyn eu gwneud yn llawer mwy ymwybodol ac, yn bwysicaf oll, yn llai pryderus am ddyfodol gyda dementia.”

Dywedodd Karen Napier, Prif Swyddog Gweithredol The Reading Agency: “Mae lansio ein casgliad newydd o lyfrau’n ddatblygiad newydd sylweddol yng nghyd-destun cynnig iechyd a lles The Reading Agency. Rydyn ni’n credu y gallai’r adnodd unigryw a newydd hwn o lyfrau a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y rhai sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u hanwyliaid o bob oed, fydd ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, chwarae rôl bwysig yn y gwaith o gefnogi’r gymuned ehangach y mae dementia’n effeithio arni.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.