Tasglu ADHD Newydd GIG Lloegr
23 Mai 2024
Mae GIG Lloegr wedi lansio Tasglu ADHD traws-sector newydd, sy’n uno arbenigwyr o’r GIG, sectorau addysg, elusennau a chyfiawnder, i ddeall yn well yr heriau sy’n effeithio ar unigolion gydag ADHD, gan gynnwys y gallu i dderbyn gwasanaethau a’r galw cynyddol amdanyn nhw.
Bydd y Tasglu ADHD newydd yn cael ei gadeirio gan yr Athro Anita Thapar, athro mewn seiciatreg plant a’r glasoed yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, a Joanna Killian, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr a Chadeirydd Bwrdd St Mungo’s, elusen ddigartrefedd y DU.
Bydd y tasglu’n ymwneud â chleifion, darparwyr gwasanaethau, Byrddau Gofal Integredig, gwasanaethau gofal sylfaenol, awdurdodau lleol, ysgolion, darparwyr addysgol a thimau clinigol.
Meddai Joanna Killian: “Rwy’n falch iawn o gael cais i gyd-gadeirio’r tasglu. Mae ADHD yn gyflwr sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl mewn llawer o wahanol ffyrdd ac mae galw cynyddol am gymorth a gwybodaeth. Mae cynghorau’n cynnig gofal amrywiol i blant ac oedolion ag ADHD, gan weithio gyda phartneriaid ym meysydd tai, iechyd, addysg a’r sector gwirfoddol lleol. Mae’r tasglu’n gyfle pwysig i bartneriaid cenedlaethol gydweithio i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion pobl o bob oed sy’n byw gydag ADHD yn y dyfodol.”
Bydd y Tasglu’n ystyried ffyrdd o wella llwybrau trin ADHD a phrofiad y claf, yn ogystal â gwneud argymhellion ar gyfer diwygio gwasanaethau. Mae'r Tasglu ADHD yn cyd-fynd â ffocws GIG Lloegr ar ADHD, gydag uwch-glinigwyr a rheolwyr o bob rhan o'r wlad – a hynny gyda’r gyda'r nod o ddatblygu cynllun gwella data ADHD cenedlaethol a sicrhau bod gwasanaethau ADHD yn dilyn arfer gorau.
Meddai Steve Russell, prif swyddog cyflawni GIG Lloegr: “Lansiodd y GIG y tasglu ADHD traws-sector cyntaf i ymateb i’r twf yn y galw am wasanaethau, ac wrth i ni barhau i adeiladu ar y momentwm hwnnw, rwy’n falch o allu cyhoeddi y bydd Anita a Joanna yn cadeirio’r tasglu ar y cyd.
“Rydyn ni wedi cydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn gallu cael diagnosis amserol, ac yn bwysig iawn, bod yr holl anghenion yn cael sylw. Bydd cyfoeth enfawr o arbenigedd Anita a Joanna, gyda chefnogaeth y GIG, yn allweddol i yrru’r agenda bwysig hon yn ei blaen i wella gofal a chymorth i bobl ag ADHD.”