Ysbrydoli talent greadigol y dyfodol
23 Mai 2024
Diwrnod y Diwydiant Ysgrifennu Creadigol yn agor drysau am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae darpar awduron a sgriptwyr y llwyfan a’r sgrîn wedi cael cip gwerthfawr iawn ar y maes ar Ddiwrnod y Diwydiant Ysgrifennu Creadigol.
Y digwyddiad rhad ac am ddim hwn oedd y cyfle cyhoeddus cyntaf o’i fath ar gyfer y diwydiant ysgrifennu a chyhoeddi, yng nghwmni awduron, asiantau, beirdd a chyhoeddwyr arobryn yn y Brifysgol.
Rhannodd cyn-fyfyrwyr sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol gan gynnwys barddoniaeth lafar, theatr a theledu o raglen MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd eu profiadau, a thrafod heriau a llwyddiannau o ran llywio’r diwydiannau creadigol ar ôl graddio.
Ymhlith y cyn-fyfyrwyr a rannodd wybodaeth ac awgrymiadau ar y diwrnod roedd Jannat Ahmed, Dan Anthony, Taylor Edmonds, Rebecca Parfitt a Nasia Sarwar-Skuse.
Roedd ymarferwyr ar gamau gwahanol o’u gyrfaoedd yn barod i rannu eu harferion gorau ar gamau cynnar gyrfaoedd, o Bywyd ar ôlMA mewn Ysgrifennu Creadigol a Cael Cyflog - Agweddau Ymarferol Gyrfa Ysgrifennu yn ogystal â sesiynau grŵp ymarferol ar Goresgyn Rhwystrau Awduron a Penodi Asiant.
O feithrin talent newydd i hyrwyddo lleisiau amrywiol, rhannodd cwmnïau cyhoeddi dylanwadol yng Nghymru straeon y tu ôl i lyfrau, egluro eu prosesau golygyddol a rhoi cyngor gwerthfawr yn Lleisiau Cyhoeddi Cymru.
Diolch enfawr i Seren Books, Parthian Books, Broken Sleep Books, a Lucent Dreaming am fewnwelediad mor werthfawr i’r heriau a’r cyfleoedd unigryw o fewn tirwedd cyhoeddi’r genedl.
Roedd y diwrnod llawn ysbrydoliaeth a rhannu gwybodaeth yn gydweithrediad rhwng Caerdydd Creadigol, y rhwydwaith sy’n cysylltu pobl yn niwydiannau creadigol y brifddinas ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.
Wedi'u haddysgu gan academyddion ac awduron blaenllaw ar draws genres yn un o ganolfannau ysgrifennu creadigol cyntaf y DU, mae BA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ac MA Ysgrifennu Creadigol ymhlith ystod o raglenni a gynigir yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Heddiw, mae nofelwyr, beirdd a dramodwyr arobryn y ganolfan yn cynnwys Ailbhe Darcy, Tristan Hughes, Tyler Keevil, Meredith Miller, Abigail Parry, Tim Rhys a Christina Thatcher (MA 2010, PhD 2020).
Dywedodd Christina Thatcher (MA 2010, PhD 2020), Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol a chyd-drefnydd:
'Yn draddodiadol, rydyn ni wedi cynnal y diwrnod diwydiant hwn ar gyfer ein myfyrwyr MA yn unig - mae bob amser yn ddigwyddiad gwych ac yn un o uchafbwyntiau’r radd! Eleni, ry’n ni’n falch o weithio mewn partneriaeth gyda Chaerdydd Creadigol a gwneud y diwrnod yn agored i’r cyhoedd. Gobeithio y bydd y digwyddiad o fudd i gymuned ysgrifennu ehangach Caerdydd, ac yn cefnogi ein myfyrwyr i dyfu eu rhwydweithiau yn y ddinas.’
Dywedodd Jess Mahoney, Pennaeth Caerdydd Creadigol:
‘Er bod llawer o weithgareddau Caerdydd Creadigol ynghylch y diwydiant, mae hefyd llu o dalent creadigol cyffrous iawn yma ar garreg ein drws, yn y brifysgol ei hun. Mae’r MA Ysgrifennu Creadigol yn enghraifft wych o hyn, gyda’r cwrs yn dod yn hwb o leisiau newydd yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn gyffrous iawn i fod yn cydweithio ar Ddiwrnod y Diwydiant Ysgrifennu Creadigol 2024 drwy agor y digwyddiad hwn i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed. Bydd y bartneriaeth hon yn dod â chyfoeth o arbenigedd a phrofiad gwerthfawr i gymuned ysgrifennu ehangach Caerdydd, tra hefyd yn cyfoethogi profiadau myfyrwyr ar y cwrs trwy roi cyfle iddynt gryfhau a chyfoethogi eu rhwydweithiau.'
Cynhaliwyd Diwrnod y Diwydiant Ysgrifennu Creadigol 2024 ar 16 Mai yn Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd.