Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad newydd yn tynnu sylw at gaffael gwerth cymdeithasol

23 Mai 2024

An illustration of the Earth with a pound sign and a recycle sign

Mae adroddiad newydd dan arweiniad y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd ill dwy’n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd, yn taflu goleuni ar y broses allweddol o integreiddio gwerth cymdeithasol ac arferion caffael.

Ac yntau wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae’r adroddiad yn rhoi sylw i enghreifftiau yn y byd go iawn o fewnosod lles cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol—a elwir gyda’i gilydd yn werth cymdeithasol—i mewn i arferion caffael.

Gan dynnu ar saith astudiaeth achos yn cynnwys sefydliadau o wahanol sectorau, mae'n cynnig golwg gyfannol i ni, gan gynnwys safbwyntiau prynwyr a chyflenwyr.

Drwy gyfweliadau fideo sgyrsiol, mae cynrychiolwyr o sefydliadau megis Cyngor Caerffili, National Highways, Bute Energy ac eraill yn sôn am eu profiadau uniongyrchol o ymgorffori gwerth cymdeithasol i gaffael cyhoeddus ac am arferion gorau yn eu cylch.

Dyma a ddywed yr Athro Jane Lynch, Cyfarwyddwr y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus:

“Mae’r prosiect ymchwil hwn wedi’i amseru’n dda i gynorthwyo a chefnogi gweithwyr caffael proffesiynol gyda’r ddeddfwriaeth gaffael newydd sy’n dod i rym o Hydref 2024. Mae'r achosion dan sylw yn rhoi mwy o eglurder ynghylch y term ‘cymdeithasol’ sy'n aml yn cael ei gamddehongli, yn ogystal â’r term ‘gwerth’. Diolch i’r sawl a gymerodd ran yn y cyfweliad ac a rannodd eu profiadau er mwyn ein helpu ni â’r agenda bwysig hon.”
Yr Athro Jane Lynch Professor of Procurement

Mae’r adroddiad hwn yn cyd-daro â chyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd, gan gynnwys Y Ddeddf Caffael 2023, Y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024. Mae fframweithiau cyfreithiol o’r fath yn arwydd o newid mewn normau caffael cyhoeddus, gan ganolbwyntio llai ar brosesau a mwy ar sicrhau gwell canlyniadau i’r gymdeithas a’n cymunedau.

Bwriad yr adroddiad hwn, ochr yn ochr â’r diwygiadau deddfwriaethol, yw ceisio arwain sefydliadau tuag at wreiddio gwerth cymdeithasol yn eu harferion, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn agosach â’r nodau a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Darllenwch yr adroddiad llawn:

Rhannu’r stori hon