Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd ymhlith arloeswyr yn y DU i ymchwilio i sêr cyntaf y bydysawd, y ffrwydradau mwyaf a mwy

23 Mai 2024

Llun o Dr Giulio Fabbian wrth olygfan ar nendwr, gyda gorwel dinas fetropolitan y tu ôl iddo
Cymrawd Ernest Rutherford 2024 Dr Giulio Fabbian

Mae ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd wedi’i enwi’n rhan o garfan newydd o ddeg arweinydd sy’n dod i’r amlwg ym maes gwyddoniaeth yn y DU.

Mae Dr Giulio Fabbian o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ymhlith y rhai sydd wedi sicrhau Cymrodoriaeth Ernest Rutherford eleni gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Mae’r gymrodoriaeth yn cydnabod yr ymchwilwyr mwyaf addawol ar ddechrau eu gyrfaoedd ym meysydd ffiseg gronynnau, seryddiaeth a ffiseg niwclear yn y DU, gan eu helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a gwthio ffiniau eu priod feysydd.

Mae ymchwil Dr Fabbian yn canolbwyntio ar gyfuno arsylliadau ar y golau sy’n weddill o’r Glec Fawr, sef y Cefndir Microdonnau Cosmig, â data ar ddosbarthiad mater fel y’i gwelir mewn arolygon seryddol.

“Dyma ddwy garreg sylfaen ein gwybodaeth am y bydysawd,” meddai Dr Fabbian.

“A minnau’n Gymrawd Ernest Rutherford, bydda i’n ceisio manteisio ar y synergedd unigryw sy’n cael ei hwyluso gan y gwaith cyd-ddadansoddi hwn er mwyn ateb cwestiynau ffiseg ac astroffiseg sydd heb gael eu hateb eto.”

“Drwy gyfuno data’r lloeren Euclid â data Arsyllfa Simons, bydd fy ngwaith yn taflu goleuni ar gynhyrchiad tonnau disgyrchiant yn y bydysawd cynnar a rôl niwtrinoeon, tyllau duon ac uwchnofâu yn y broses o greu’r galaethau a’r clystyrau o alaethau rydyn ni’n eu harsyllu heddiw.”

Mae’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg wedi buddsoddi cyfanswm o fwy na £6 miliwn yn ei raglen Cymrodoriaethau Ernest Rutherford eleni. Nod y rhaglen yw gwobrwyo ymchwilwyr talentog ym mhrifysgolion y DU, gan gynnwys annog meddyliau disglair i ddod i’r wlad, neu aros yma, a chyfrannu at uchelgeisiau gwyddonol y DU.

Ychwanegodd yr Athro Haley Gomez, Pennaeth Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Ar ran pawb ym Mhrifysgol Caerdydd, hoffwn i longyfarch Giulio ar sicrhau’r gymrodoriaeth hon gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

“Mae’n cydnabod uchelgais ei ysgolheictod, allai arwain y broses o ddatblygu arbrofion ar y ddaear ac arbrofion lloeren ar gyfer y degawd nesaf.

“Alla i ddim aros i weld beth fydd yn ei ddatgelu.”

Mae’r rhaglen, sydd bellach yn ei 14eg flwyddyn olynol, wedi cefnogi mwy na 100 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd ac wedi rhoi hwb sylweddol i allu ymchwil y DU ym maes ffiseg.

Mae’r rhai sydd wedi sicrhau’r gymrodoriaeth yn flaenorol wedi mynd ymlaen i dderbyn swyddi uwch, parhaol yn sefydliadau ymchwil blaenllaw’r DU, ac mae pob carfan newydd yn cynnig cipolwg cyffrous ar ddyfodol ffiseg yn y DU.

Dywedodd yr Athro Grahame Blair, Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni Ymchwil yn y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg: “Pleser bob amser yw darllen cynigion ein Cymrodyr Ernest Rutherford diweddaraf a dysgu beth sy’n cyffroi’r ymchwilwyr hynny sy’n mynd ati i wneud darganfyddiadau mawr fory.

“Rydyn ni’n cael llawer o geisiadau o ansawdd arbennig o uchel am y gymrodoriaeth hon, ac mae’n anodd dros ben inni benderfynu pwy fydd y deg ymgeisydd llwyddiannus bob blwyddyn. Er hynny, rwy’n falch iawn o gyflawniadau ein holl gymrodyr blaenorol, ac rwy’n edrych ymlaen at ddilyn hynt y garfan ddiweddaraf hon, wrth i’r cymrodyr ailddatgan statws y DU yn arweinydd ym maes ymchwil ffiseg a seryddiaeth.

“Llongyfarchiadau i Gymrodyr Ernest Rutherford 2024, a phob lwc yn eich ymdrechion.”

Mae manylion llawn Cymrodoriaeth Ernest Rutherford, gan gynnwys telerau’r gymrodoriaeth a gwybodaeth am sut i ddod yn gymrawd yn 2025, ar gael ar dudalen y gymrodoriaeth ar wefan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.