Yr Astudiaeth fanwl gyntaf o ail blaid wleidyddol fwyaf y wlad wedi’i lansio yn y Senedd
23 Mai 2024
Ail lyfr gan gyn-fyfyriwr yn rhoi sylw i dynged y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn sgil yr Ail Ryfel Byd
Yn aml, ystyrir Cymru’n un o’r ardaloedd mwyaf gwrth-Geidwadol ym Mhrydain.
Yn ei lyfr The Conservative Party in Wales, 1945–1997 dyma Sam Blaxland yn cwestiynu pam na lwyddodd ceidwadaeth ym mhob rhan o'r wlad, gan drafod y ffyrdd y bu'r blaid gyfleu ei pholisïau, pwy oedd ei hymgeiswyr, a sut gwnaeth y blaid lunio polisïau penodol 'ar gyfer y genedl' yn fwriadol - boed cyflwyno'r Prif Weinidog dros Faterion Cymreig neu wneud y Gymraeg yn bwnc gorfodol mewn ysgolion.
Yn y llyfr llawn cyntaf erioed i ymdrin â’r pwnc hwn, mae'r hanesydd Dr Sam Blaxland (BA 2012, MA 2014) yn craffu ar ymgyrchwyr a Thorïaid adnabyddus, gan gwestiynu’r hyn y maen nhw’n ei ddatgelu inni am agweddau ar hanes Cymru sydd heb eu hastudio’n ddigonol, yn enwedig bywydau pobl Seisnigaidd a cheidwadol y dosbarth canol.
Ac yntau bellach yn addysgu yn UCL, mae Sam yn ddarlithydd sy’n hanu o Sir Benfro, ac yn hyddysg ym maes hanes modern Prydain, gan ffocysu ar addysg, gwleidyddiaeth, cymdeithas, hanes llafar, a hanes prifysgolion a myfyrwyr.
Cafodd The Conservative Party in Wales, 1945-1997 ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, ac fe’i lansiwyd yn swyddogol yn Adeilad y Pierhead ar 14 Mai mewn digwyddiad arbennig a noddwyd gan Samuel Kurtz AS.