Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr 2024

22 Mai 2024

Professor Maneesh Kumar
Professor Maneesh Kumar

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn dathlu’r rhai sy’n mynd yr ail filltir i fyfyrwyr yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr.

Roedd 4 o’r rhai a chaeth eu henwebu o Ysgol Busnes Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer, gyda’r Athro Maneesh Kumar yn ennill y wobr yng nghategori Goruchwyliwr Doethurol y Flwyddyn.

Mae Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr (ESLAs) blynyddol yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau arbennig i gyfoethogi profiad myfyrwyr.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn Undeb y Myfyrwyr ddydd Iau 9 Mai. Daeth aelodau staff a myfyrwyr at ei gilydd i ddathlu cyflawniadau rhagorol ac ymroddiad y rhai sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl i gyfoethogi bywyd myfyrwyr yn y brifysgol.

Roedd Pat Younge, Cadeirydd y Cyngor, a Claire Morgan Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, yno i groesawu’r gynulleidfa, a chafodd gwobrau’r enillwyr eu cyflwyno gan Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr, a Phenaethiaid Ysgolion Academaidd. Eleni, cafodd y gwobrau eu cynnal ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr am y tro cyntaf.

Llongyfarchiadau i'r Athro Maneesh Kumar am ennill yng nghategori 'Goruchwyliwr Doethurol y Flwyddyn'.

“Braint enfawr yw derbyn gwobr 'Goruchwyliwr Doethurol y Flwyddyn.' Diolch yn fawr iawn i’r myfyrwyr a wnaeth fy enwebu fi, ac i’r panel am lunio’r rhestr fer. Rwy’n cyflwyno’r wobr hon i fy holl fyfyrwyr PhD presennol a blaenorol sydd wedi fy ysgogi i wella fy hun yn barhaus fel mentor/goruchwyliwr."
Yr Athro Maneesh Kumar Reader in Service Operations, Program Director Executive MBA

... "Hydera i fod blaenoriaethu diddordebau ein myfyrwyr uwchlaw pob dim a mynd yr ail filltir i gyfoethogi eu profiad dysgu, yn fraint, ac nid yn faich. Yr hyn rwy’n ymdrechu i wneud yw sicrhau bod pob myfyriwr doethuriaeth yn rhagori, nid yn unig yn academaidd, ond wrth bontio i yrfaoedd llawn boddhad ar ôl ennill PhD."

Llongyfarchiadau i'n staff a myfyrwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categorïau canlynol:

  • Y Profiad Dysgu Mwyaf Rhagorol – Dr Maryam Lotfi
  • Goruchwyliwr Doethurol y Flwyddyn - Yr Athro Bahman Rostami-Tabar
  • Gwobr y Llywydd – George Sturgess

Rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o enillwyr.

Rhannu’r stori hon