Pobl ifanc yn dysgu am fywyd prifysgol yn Eisteddfod yr Urdd
21 Mai 2024
Bydd academyddion a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn mynd i Eisteddfod yr Urdd eleni.
Cynhelir yr ŵyl am gyfnod o wythnos ym Maldwyn rhwng 27 Mai a 1 Mehefin a disgwylir y bydd yn denu dros 90,000 o ymwelwyr.
Bydd nifer o weithgareddau rhyngweithiol hwyliog yn cael eu cynnal ym mhabell Prifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n arddangos peth o'r ymchwil a'r dysgu fydd ar gael i bobl ifanc os ydyn nhw’n dewis astudio yn y brifddinas.
Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ddod yn dditectifs gwenyn, gan ddarganfod sut mae modd gwneud meddyginiaethau allan o fêl, gyda chymorth academyddion o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ac Ysgol y Biowyddorau.
Byddan nhw’n darganfod pa mor gyflym maen nhw’n gallu beicio milltir gyda’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.
Bydd yr Ysgol Seicoleg yn cynnal cyfres o gemau hwyliog i ddarganfod rhyfeddodau'r ymennydd, tra bydd y tîm Ehangu Cyfranogiad yn cynnig profiad Realiti Rhithwir.
Bydd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn profi gwybodaeth pobl am gysyniadau'r gwyddorau cymdeithasol, tra bydd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn cynnal cyfres o weithgareddau ystafell ddosbarth.
Bydd unigolion sydd eisiau bod yn ddeintydd hefyd yn gallu ymarfer atgyweirio ceudodau a chymryd argraffau cyn clywed sgwrs ar yrfaoedd ym maes deintyddiaeth gan yr Ysgol Deintyddiaeth.
Bydd masgot y Brifysgol, Dylan y Ddraig, hefyd wrth law i gyfarfod a chyfarch y torfeydd.
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn noddi’r Goron eleni, un o'r prif wobrau llenyddol, sy'n cael ei chyflwyno i awdur buddugol darn o ryddiaith dros 4,000 o eiriau. Bydd Seremoni'r Coroni yn cael ei chynnal am 14:30, ddydd Gwener, Mai 31, 2024, yn y Pafiliwn Gwyn ar y Maes, a bydd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.
Meddai Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg Prifysgol Caerdydd: "Bydd Eisteddfod yr Urdd eleni yn un gyffrous, gyda llu o weithgareddau amrywiol i bobl ifanc. Mae ein presenoldeb yn yr ŵyl yn rhan o'n hymrwymiad i'r Gymraeg. Rydyn ni’n falch o allu cyfrannu at un o ddigwyddiadau mwyaf ein cenedl. Bydd yn gyfle i ymgysylltu â'r cyhoedd a chefnogi diwylliant dinesig ein gwlad.
"Mae cymuned ffyniannus o siaradwyr Cymraeg yn y Brifysgol ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd yn cael eu hysbrydoli gan yr ystod enfawr o gyfleoedd cyffrous sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio gyda ni."