Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion i rannu eu hymchwil yng Ngŵyl y Gelli

21 Mai 2024

Fflagiau stryd yn y Gelli Gandryll yn ystod yr ŵyl
Bwrlwm yn y Gelli Gandryll. Credyd: Billie Charity

Bydd academyddion Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno eu hymchwil yng Ngŵyl y Gelli.

Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yn 1988, ac mae’r digwyddiad bywiog hwn wedi esblygu i fod yn ffenomen fyd-eang, gan ddenu awduron, artistiaid, meddylwyr a pherfformwyr o bob cwr o'r byd.

Ymhlith y rhai fydd yn traddodi yn yr ŵyl mae'r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost, fydd yn cynnal sgwrs ddadlennol am ei lyfr newydd, Fieldnotes from Celtic Palestine.

Ddydd Llun, Mai 27, yn ystod Celtic Palestine: Culture and Conflict, bydd yn rhannu hanesion am ei ymweliadau â Phalesteina dros nifer o flynyddoedd, ac yn ystyried agweddau ar y gwrthdaro yno trwy gyfrwng celfyddyd. Bydd hefyd yn trin a thrafod darluniau o Gaza gan yr artist o Gymro, Osi Rhys Osmond, ac ar bortreadau o'r Lan Orllewinol yng ngwaith creadigol y nofelydd o Wyddel, Colum McCann.

Meddai’r Athro Mac Giolla Chríost, sy'n Gyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yn Ysgol y Gymraeg: “Byddaf yn sôn am y modd y gall ymarferwyr creadigol a'u celf chwarae rhan bwysig, hanfodol hyd yn oed, yn ein dealltwriaeth o’r gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina.

“Gan fy mod wedi fy ngeni a fy magu yng Ngogledd Iwerddon, lle oedd ar un adeg yn dioddef gwrthdaro oedd yn anodd ei ddatrys, rwy'n gobeithio y byddaf yn mynegi ymdeimlad o empathi yn fy sgwrs am y sefyllfa ym Mhalesteina.”

Ddydd Sadwrn Mehefin 1, bydd trafodaeth banel, Social Class in Contemporary Britain, yn trin a thrafod strwythur dosbarth cymdeithasol y DU heddiw.

Bydd yr Athro Valerie Walkerdine a Dr Ryan Davey o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Dr Richard Gater o'r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Dr Daniel Evans o Brifysgol Abertawe a gynt o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn archwilio profiadau byw o ddosbarth cymdeithasol; sut mae dosbarth cymdeithasol yn rhyngweithio â hunaniaethau eraill fel rhywedd; a'r berthynas rhwng dosbarth cymdeithasol ac ymddygiad gwleidyddol.

Meddai Dr Ryan Davey: “Bydd y pedwar ohonom yn cyflwyno canfyddiadau o'n hymchwil i ddosbarth cymdeithasol ym Mhrydain, gan ystyried sut mae ein cefndiroedd ein hunain wedi dylanwadu ar ein gwaith.

“Bydd Valerie yn sôn am hanesion dosbarth cymdeithasol o'r cyfnod wedi’r rhyfel hyd at y presennol ôl-ddiwydiannol, tra bod gan Richard ymchwil newydd sy'n edrych ar hunaniaeth wrywaidd ymhlith dynion ifanc dosbarth gweithiol o Gymoedd De Cymru, sydd heb fod ymhell i'r de o'r Gelli.

“Gwaith Dan ar y dosbarth canol is, o'i lyfr diweddar A Nation of Shopkeepers, bydd canolbwynt ei sgwrs, gan gynnwys yr effaith ar wleidyddiaeth boblyddol. Mae fy ymchwil i’n edrych ar sut mae dyled aelwydydd yn cyfrannu at anghydraddoldeb o ran dosbarth cymdeithasol, yn economaidd ac o ran stigma cymdeithasol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â safbwyntiau o brofiadau’r dosbarth gweithiol a’r dosbarth canol is i ofod sydd fel arfer yn cael ei gysylltu â’r dosbarth canol neu’r dosbarth canol-uwch. ”

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl a digwyddiadau eraill, gweler rhaglen lawn 2024.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.