Bron i draean o newyddiadurwyr Cymru yn ystyried gadael y sector
22 Mai 2024
Mae cyfran uwch o newyddiadurwyr Cymru yn ystyried gadael y sector o'i gymharu â'r rhai o bob rhan o'r DU, yn ôl dadansoddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae'r astudiaeth gan ymchwilwyr yng Nghanolfan yr Economi Greadigol yn datgelu maint yr her sydd o'n blaenau o ran sicrhau bod newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru yn goroesi a’i bod â hygrededd.
Wedi’i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru, aeth y tîm ymchwil ati i ymgysylltu â channoedd o bobl sy'n gweithio yn y sector, gan gynnwys y sefydliadau prif ffrwd mwy o faint, gwefannau cymunedol annibynnol, gweithwyr llawrydd, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill, fel y rhai sy'n gweithio ym maes hyfforddiant neu bolisi.
Mae'r canlyniadau'n dangos bod mwy na 65% o newyddiadurwyr Cymru wedi meddwl am adael y sector o blaid proffesiwn arall. Mae 31% ohonynt ar fin gadael. Y prif resymau a gafodd eu nodi dros fod eisiau gadael y sector oedd sicrwydd y swydd (21%), cyflog (18%), a straen a gorludded (“llosgi allan”) (18%). Roedd maint llwythi gwaith a phwysau amser hefyd yn ffactorau mawr, yn ôl yr ymchwilwyr.
O’i gymharu â’r data cyffredinol mwyaf diweddar yn y DU o 2018, roedd 64% o newyddiadurwyr yn bwriadu aros yn y sector bryd hynny.*
Er gwaethaf y canfyddiadau trawiadol hyn, maen nhw’n datgelu bod 74% o newyddiadurwyr Cymru naill ai'n fodlon iawn neu'n weddol fodlon yn eu swyddi presennol.
Mae'r astudiaeth yn dangos bod gan 28% gontractau parhaol, amser llawn, gyda 7% ar gontractau parhaol rhan-amser adeg cynnal yr ymchwil. Roedd gan bron i 9% o bobl gontractau cyfnod penodol amser llawn ac roedd 4% ar gontractau cyfnod penodol rhan-amser, tra bod 28% yn weithwyr llawrydd.
Dywedodd arweinydd yr ymchwil, Dr Marlen Komorowski o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant: “Am y tro cyntaf, rydyn ni’n gallu gweld yn fanwl yr effaith y mae gostyngiad yn nifer y darllenwyr, cael gwared ar swyddi a llwythi gwaith mwy wedi’u cael ar newyddiaduraeth yng Nghymru. Mae sector newyddiaduraeth ffyniannus yn hanfodol ar gyfer democratiaeth a chynnal trosolwg o’r rheiny sydd mewn grym. Mae modd dadlau bod rhai o'r heriau strwythurol y mae’r sector yn eu hwynebu yma yn ddyfnach na rhannau eraill o'r DU - fel sydd i’w weld o’r gyfran mor uchel o newyddiadurwyr sy'n ystyried gadael y sector.”
“Mae'n amlwg bod y mwyafrif helaeth o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn angerddol am y gwaith maen nhw'n ei wneud - gyda thri chwarter yn dweud eu bod yn hapus yn eu gwaith. Ond gyda chymaint yn gweithio o dan amodau ansicr, does dim llawer o syndod bod cyfran mor uchel o newyddiadurwyr yng Nghymru yn ystyried eu dyfodol yn y sector.”
Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod yna ddiffyg amrywiaeth mewn ystafelloedd newyddion, gyda'r mwyafrif o newyddiadurwyr yn ddynion rhwng 45 a 54 oed o aelwydydd dosbarth canol. Yn ôl yr astudiaeth, dydy ystafelloedd newyddion a sefydliadau ddim yn llefydd cynhwysol ar gyfer pobl anabl, a
dydy’r rhan fwyaf o gynnwys ddim yn cynrychioli'r ystod lawn o bobl a chymunedau sydd i’w chael yng Nghymru.
Mae tensiwn hefyd rhwng dyheadau newyddiadurol am straeon er budd y cyhoedd a'r math o gynnwys y mae pobl yn ymgysylltu ag ef.
Nododd y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth hefyd ddiffyg hyfforddiant drwy’r Gymraeg a diffyg cyfleoedd datblygu gyrfa i gadw ar y blaen o ran technoleg newydd, er enghraifft y cynnydd mewn Deallusrwydd Artiffisial (AI).
Mae ymchwilwyr wedi cynnig cyfres o argymhellion i ddiogelu’r sector newyddiaduraeth yng Nghymru, sy'n cynnwys gwell cefnogaeth i weithwyr llawrydd, cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer cynnwys newyddiadurol cynhwysol ac amrywiol, gwell cyfleoedd i bobl o gefndiroedd difreintiedig a chefnogaeth i newyddiaduraeth mewn meysydd sydd ddim yn cael sylw digonol ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Dr Komorowski: “Diolch i'r dystiolaeth sydd wedi’i chasglu a'r gwaith gyda phartneriaid, rydyn ni’n gallu dangos cynllun ar gyfer datblygu diwylliant newyddion iach ac annibynnol a fydd yn gwasanaethu buddiannau a safbwyntiau pob cymuned yn well.”
Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad, a chyd-gyfarwyddwr a rheolwr prosiect Inclusive Journalism Cymru, Silvia Rose: “Wrth siarad yn uniongyrchol gyda newyddiadurwyr a rhanddeiliaid yng Nghymru, roedd modd i ni ddadansoddi’r sefyllfa go iawn a datblygu cynllun wedi’i seilio ar dystiolaeth er mwyn creu diwylliant newyddion mwy iach. Er gwaetha’r materion a oedd yn peri pryder sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad, roedd yn glir bod gwerth newyddiaduraeth annibynnol yn dal i gael ei gydnabod. Efallai y bydd hi’n cymryd amser i’w wella, ond o leiaf erbyn hyn rydyn ni’n gwybod ble i ddechrau arni.”