Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ethol Athro Caerdydd yn Gymrawd
23 Mai 2024
Mae Damcaniaethwr Gwleidyddol o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cael ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy'n cynrychioli'r gorau o fywyd academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru.
Cafodd yr Athro Graeme Garrard o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ei gydnabod am ei gyfraniadau at y gwaith o astudio theori gwleidyddiaeth ym mis Ebrill gan academi genedlaethol gyntaf Cymru o wyddoniaeth a llythyrau.
Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010 ar gyfer unigolion nodedig sydd â chysylltiad â Chymru er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut mae'r gwyddorau naturiol a chymdeithasol, y celfyddydau a'r dyniaethau o fudd i gymdeithas. Mae cael eich ethol i Gymrodoriaeth yn fodd o gael cydnabyddiaeth gyhoeddus am ragoriaeth academaidd, ac yn broses fanwl a thrwyadl lle caiff enwebiadau eu cynnig a'u cadarnhau gan Gymrodorion presennol y Gymdeithas. Caiff pob ymgeisydd eu hasesu gan arbenigwyr allanol sydd â statws rhyngwladol mewn meysydd perthnasol cyn cael eu hystyried gan y pwyllgor craffu priodol. Ar ôl cael eu hethol, mae Cymrodyr yn cynorthwyo gwaith y Gymdeithas yn hyn o beth drwy gymryd rhan yn ei hamryw bwyllgorau a gweithgorau, a thrwy gynrychioli'r Gymdeithas yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Prif faes ymchwil yr Athro Garrard yw'r Oleuedigaeth a’i feirniaid. Symudiad creadigol a deallusol yn ystod y deunawfed ganrif oedd yr Oleuedigaeth a oedd yn pwysleisio gwrando ar reswm dros goel, a gwyddoniaeth dros ffydd lwyr. Mae’r Athro Garrard yn dysgu modiwlau ar Feddwl Gwleidyddol Modern, Meddwl Gwleidyddol yr Ugeinfed Ganrif ac Athroniaeth Wleidyddol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Wrth sôn am gael ei ddewis ar gyfer y gymrodoriaeth, dywedodd Yr Athro Garrard, ‘’braint fawr yw cael fy ethol yn gymrawd o’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n cynnwys nifer o aelodau nodedig. Mae’r gymdeithas yn cynnwys amrywiaeth o bobl o brifysgolion a thu hwnt, sy’n hyrwyddo gwaith ymchwil ynghyd a’u gwybodaeth a phrofiad eang cyfunol o ysbrydoli dysgu a dylanwadu ar bolisïau, a hynny er budd y cyhoedd yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at waith rhagorol y Gymdeithas".