Thrice to Rome yn mynd ar daith eglwysig
22 Mai 2024
Mae drama a ysgrifennwyd gan Athro’r Gyfraith o Gaerdydd ar daith i nifer o safleoedd eglwysig o bwys, gydag aelodau newydd o'r cast yn ymuno ar gyfer pob perfformiad.
Ysgrifennwyd Thrice to Rome gan yr Athro Norman Doe o Gaerdydd, dramaam dri ymddangosiad Gerallt Gymro gerbron llys Pab Innocent III yn Rhufain yn1201-03. Perfformiwyd y ddrama yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro a Temple Church Llundain mis Mawrth eleni.
Gwelwyd cyfreithwyr eglwysig, academyddion, ac o leiaf un archddiacon yn y perfformiad yn Llundain ar 5 Mawrth! Rhodri Price Lewis KC, Dirprwy Farnwr yr Uchel Lys 2013-22 oedd yn chwarae rhan Gerallt Gymro mewn gŵn a llaeswisg gwyrdd a’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, Arglwydd Brif Ustus 2013-17, oedd yn chwarae rhan Pab Innocent III. Ymhlith yr actorion eraill roedd Syr Robert Buckland KC AS, Arglwydd Ganghellor 2019-21, Morag Ellis KC, Deon yr Arches ac Archwilydd, Jacqueline Humphreys, Canghellor Esgobaeth Caerwrangon, Philip Petchey, Canghellor Esgobaeth Southwark, Gregory Dorey, Is-Drysorydd, Y Deml Fewnol, y Parchedig Mark Hatcher, Darllenydd y Deml a'r Parchedig Robin Griffith-Jones, Meistr y Deml.
Perfformiwyd y ddrama hefyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro ar 23 Mawrth. Y tro hwn roedd y cast yn cynnwys Gerald Davies, arwr rygbi Cymru, a chyn-Lywydd Undeb Rygbi Cymru (a chwaraeodd ran Lyndwood) a'r Athro Paul Russell, Athro Emeritws Astudiaethau Celtaidd yng Nghaergrawnt, ac ysgolhaig adnabyddus sy’n arbenigo ar Gerallt Gymro (a chwaraeodd ran Pab Innocent III).
Dywedodd yr Athro Doe, Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, Meistr y Fainc yn y Deml Fewnol, a Changhellor Esgobaeth Bangor, "Rwy'n gobeithio y bydd y ddrama, wrth ddefnyddio'r gyfraith, yn cael effaith o ran ymwybyddiaeth ddiwylliannol o frwydr Cymru dros annibyniaeth yn erbyn gwladychiaeth eglwysig.”
Bydd Thrice to Romehefyd yn cael ei pherfformio yng Nghaergaint ar 12 Gorffennaf 2024 ac yn Rhufain ar 25 Medi 2024 (yn Nhribiwnlys Goruchaf yr Eglwys Gatholig).
O'r chwith i'r dde: Y Parchedig Richard Davies (Ficer Little Newcastle); Norman Doe (Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth); Rosie Davies (Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Dyffryn Taf); Gerald Davies (Cyn-lywydd URC); Y Gwir Barchedig Sarah Rowlands (Deon Cadeirlan Tyddewi); Christoper Limbert (Ficer Corawl a Rheolwr Swyddfa'r Gadeirlan); Arwel Davies (Clerc y Siapter, Cadeirlan Tyddewi); Stephen Homer (Llyfrgellydd wedi Ymddeol); Paul Russell (Prifysgol Caergrawnt).