Myfyriwr Ysgrifennu Creadigol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cydnabyddiaeth arobryn fwyaf diweddar.
20 Mai 2024
Mae Abigail Parry, yn un o dri bardd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2024, a gyhoeddwyd y mis yma.
Mae ail gasgliad barddoniaeth Parry I Think We're Alone Now ar restr fer y Wobr Barddoniaeth ochr yn ochr â Cowboy gan Kandace Siobhan Walker acIn Orbit gan Glyn Edwards.
Mae Gwobrau Llyfr y Flwyddyn, a gyflwynir gan Llenyddiaeth Cymru, yn cael eu cyflwyno bob blwyddyn i’r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol mewn pedwar categori: Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc.
I Think We're Alone Now oedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr T.S. Eliot 2023. Cyrhaeddodd casgliad cyntaf Abigail Parry, Jinxrestr fer y Forward Prize ar gyfer y Casgliad Cyntaf Gorau a Gwobr Seamus Heaney ar gyfer y Casgliad Cyntaf Gorau, ac roedd yn un o Lyfrau’r Flwyddyn yn y New Statesman, The Telegraph a’r Morning Star.
Mae’r Wobr Barddoniaeth yn un o wyth gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, gan gynnwys y People’s Award (am waith yn Saesneg) a Gwobr Barn y Bobl (gwobr y bobl am waith yn Gymraeg).
Mae Abigail Parry yn ymuno â nifer cynyddol o awduron creadigol o'r Ysgol i gael eu cydnabod yn y gwobrau cenedlaethol anrhydeddus.
Roedd Sophie Buchaillard (MA 2020, PhD 2023) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer ei nofel gyntaf This Is Not Who We Are, tra bod Megan Angharad Hunter (BA 2022) yn ennill gyda'i hymddangosiad cyntaf tu ôl i'r awyr yn 2022. Yn 2019 enillodd Ailbhe Darcy y wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru gyda'r casgliad barddoniaethInsistence, gyda'i chyd-ddarlithydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol arobryn y Brifysgol, Tristan Hughes, yn cipio Gwobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn gyda Hummingbird yn 2018.
Dywedodd Cadeirydd PEN Cymru, Dylan Moore (BA 2001) ar ran y panel beirniadu:
‘’Gan deithio o bentrefi'r Cymoedd i strydoedd dinesig Canada, yn ogystal â bydoedd hudolus, mae'r llyfrau yma yn dangos amrywiaeth ysgrifennu o Gymru ac sy'n ymdrin â Chymru. Dyma awduron sy’n defnyddio geiriau i ysbrydoli’r dychymyg, cwestiynu uniongrededd, ac ysgogi gobaith a dewrder.
Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yw’r prif noddwr o wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2024 (yn yr iaith Saesneg) eleni. Bydd y cysylltiad hwn yn gweld enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru (yn yr Iaith Saesneg) yn ymddangos yn rhan o gyfres Sôn am Straeon Caerdydd.
Bydd Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2024 yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig yr haf hwn (4 Gorffennaf, Caernarfon).
Mae bellach yn bosibl i bleidleisio ar gyfer Gwobr y Bobl Dilynwch #WBOTY am yr holl newyddion diweddaraf ynghylch y wobr.