Breinio anrhydedd uchaf y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar un o ymchwilwyr y Brifysgol
17 Mai 2024
Enwyd Athro o Brifysgol Caerdydd yn Gymrawd er Anrhydedd o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol am yr effaith ryfeddol mae wedi’i chael ym maes deunyddiau, cemeg gyfrifiannol a chatalytig ac am ei waith ar allgymorth gwyddoniaeth.
Mae’r Athro Syr Richard Catlow o’r Ysgol Cemeg yn ymuno â phedwar ymgeisydd arall gan gynnwys Syr Patrick Vallance i dderbyn y gymrodoriaeth yn 2024.
Mae ei yrfa ymchwil, sydd wedi para am 50 mlynedd, wedi canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso technegau cyfrifiannol ar y cyd ag arbrofion i ddeall a rhagweld nodweddion deunyddiau a chatalyddion cymhleth.
Yn sgil ei ysgoloriaeth ym maes deunyddiau ynni, catalysis, nano-gemeg a chemeg arwyneb, daeth yr Athro Catlow yn un o’r enwau blaenllaw yn natblygiad y maes yn y DU ac yn rhyngwladol.
Cydnabuwyd ei gyfraniad hirsefydlog ac eang i’r ddisgyblaeth yn 2020 pan gafodd ei urddo’n Farchog yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Dyma a ddywedodd yr Athro Syr Richard Catlow: “Rwy’n falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hwn sy’n cydnabod rôl allweddol y meysydd rwy wedi gweithio ynddyn nhw drwy gydol fy ngyrfa; ac rwy’n ddiolchgar i’r llu o fyfyrwyr a chydweithwyr dawnus rwy wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd yn y meysydd hyn a meysydd cysylltiedig.
“A gadewch imi ddiolch yn arbennig i ffrindiau a chydweithwyr yn Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r Ysgol Cemeg, mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw.”
Daw’r 117 o Gymrodyr er Anrhydedd presennol y Gymdeithas o ystod eang o gefndiroedd, llwybrau gyrfaol a gwledydd a chânt eu henwebu gan aelodau’r Gymdeithas.
Yn eu plith y mae unigolion y mae eu gyrfaoedd ymchwil nodedig wedi cael effaith ryfeddol ar ddatblygiad gwyddonol, arweinwyr cwmnïau, neu gynlluniau eraill o bwys sydd wedi cynorthwyo’r defnydd estynedig o’r gwyddorau cemegol yn sylweddol.
Mae rhai hefyd wedi cyfrannu at fudd a lles y gwyddorau cemegol yn sgil gwasanaeth cyhoeddus, allgymorth, datblygu polisïau neu roi newidiadau ar waith, yn ogystal â thrwy arwain gwyddonwyr cemegol neu eu cysylltu â’i gilydd, a hynny er mwyn cynnig atebion i heriau’r gymdeithas.
Dyma a ychwanegodd yr Athro John Pickett, Pennaeth Dros Dro Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: “Yn ogystal â’r athrawon prifysgol ac ymchwilwyr sy'n ceisio ymgysylltu y tu hwnt i'w pynciau eu hunain, sydd weithiau’n arwain yn y pen draw at anrhydeddau a gwobrau sifil, ynghyd â'r gydnabyddiaeth yn sgil cael eu hethol i Academïau o bwys, mae’r angen parhaus yno o hyd i ddangos safonau trwyadl yn eu pynciau eu hunain.
“I gemegwyr yn y DU gwych o beth yw gweld ein cydweithiwr yng Nghaerdydd, Richard Catlow, yn cael y fraint arbennig hon gan y Gymdeithas.”