Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddiad mewn hyfforddiant ar gyfer y sector lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne Cymru

17 Mai 2024

Photonics solar thermal plant

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) a Chronfa Rhannu Ffyniant y DU (UKSPF) yn buddsoddi mewn datblygu sgiliau yn y sector Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne Cymru.

Mae twf y sector cyffrous hwn yn hollbwysig i sbarduno creu technolegau newydd ac arloesol fel 5G, ceir heb yrwyr, Rhyngrwyd Pethau (IoT), a Deallusrwydd Artiffisial (AI), ac er mwyn cefnogi cynaliadwyedd a'r agenda sero net.

Nod y buddsoddiad newydd hwn - sy'n rhan o Raglen Datblygu a Thwf Clystyrau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - yw helpu i fynd i'r afael â’r prinder sgiliau a chreu cronfeydd talent newydd ar gyfer swyddi y mae galw mawr amdanyn nhw.

Mae lleoedd ar gael yn rhad ac am ddim i unigolion sydd eisiau cael hyfforddiant yn y meysydd canlynol:

  • Protocolau Ystafell Lân* - dyma gwrs awr o hyd ar-lein sy'n rhoi trosolwg o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd ystafell lân ar gyfer cynhyrchu ar nano-raddfa
  • Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd* – dyma gwrs cyfunol sy’n cynnwys 3.5 awr o ddeunyddiau dysgu ar-lein ac yna sesiwn ymarferol 2.5 awr o hyd, sy’n cynnig (neu’n gwella) gwybodaeth y cyfranogwr ynghylch technolegau electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a’u cymwysiadau
  • Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd* – dyma gwrs 3.5 awr ar-lein sy’n cynnig (neu’n gwella) gwybodaeth am dechnolegau ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a’u cymwysiadau

Mae’r hyfforddiant wedi’i anelu’n bennaf at unigolion yn y sector lled-ddargludyddion sy’n dymuno rhoi hwb i’w gwybodaeth, neu’r rheini sydd eisiau ail-sgilio er mwyn gweithio yn y sector hwn sy’n tyfu. Serch hynny, mae’r hyfforddiant hefyd yn berthnasol i'r rheini sy'n cefnogi'r sector (fel athrawon a darlithwyr), yn ogystal â graddedigion diweddar sydd am ymuno â'r farchnad swyddi.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu'r cyrsiau hyfforddiant ar y cyd â chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd de Cymru (o’r enw CSconnected), sef y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf yn y byd. Cynlluniwyd y deunyddiau dysgu hyn gan dynnu ar yr arbenigedd a geir yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio’r gyfres hon o gyrsiau hyfforddiant ymweld â gwefan Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael yn rhad ac am ddim! Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, ond mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys yr ardaloedd canlynol: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

*Mae’r cyrsiau hyfforddiant hyn wedi’u datblygu’n rhan o CSconnected, Y Gronfa Cryfder Mewn Lleoedd (SIPF), sef prosiect 55 mis o hyd sydd werth cyfanswm o £43 miliwn, ac a gefnogir gan £25 miliwn o gyllid gan y Llywodraeth drwy Gronfa Cryfder Mewn Lleoedd flaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Rhannu’r stori hon

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.