Athro o Ysgol Busnes Caerdydd yn ennill Gwobr Cyflawniad Oes BAFA
16 Mai 2024
Mae Kevin Holland, Athro Cyfrifeg a Threthiant yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Oes (2023) gan Gymdeithas Cyfrifeg a Chyllid Prydain (BAFA).
Caiff Gwobr Cyflawniad Oes BAFA ei dyfarnu i unigolion sydd wedi cyfrannu’n sylweddol neu’n uniongyrchol at gyfrifeg a chyllid academaidd yn y DU, naill ai drwy addysg, ymchwil neu wasanaeth cyhoeddus.
Ymunodd yr Athro Holland ag Ysgol Busnes Caerdydd yn 2014 ar ôl gweithio ym Mhrifysgol Southampton a Phrifysgol Aberystwyth mewn sawl swydd broffesiynol. Cyn iddo ddechrau yn y byd academaidd, cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig (ICAEW) gyda Price Waterhouse, lle arbenigodd mewn trethiant.
Trethiant yw prif ffocws ymchwil ac addysg yr Athro Holland. Ar y cyd ag awduron eraill, mae wedi cyhoeddi mewn nifer fawr o gyfnodolion gan gynnwys Abacus, Accounting and Business Research, British Accounting Review, British Tax Review, Critical Perspectives on Accounting European Journal of Finance, a’r Journal of International Accounting, Auditing and Taxation.
Drwy gydol ei yrfa, mae'r Athro Holland wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau allanol sy'n gysylltiedig â’i rôl fel academydd. Ar hyn o bryd, mae'n aelod o sawl bwrdd golygyddol i gyfnodolion megis Accounting and Business Research, Accounting, Finance and Governance Review a'r Journal of Accounting in Emerging Economies. Mae hefyd yn aelod o Grŵp Llywio Adolygu Cyfrifeg Prydain, pwyllgor ymchwil y Rhwydwaith Ymchwil Trethi, ac yn Uwch-gymrawd yng Nghanolfan Ymchwil Gweinyddu Treth ESRC.
Ymhlith ei swyddi blaenorol, mae aelodaeth o sefydliadau gan gynnwys Cyngor y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Pwyllgor Gwyddonol er creu Canllawiau i Gyfnodolyn Academaidd Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes.
Dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Oes i'r Athro Holland yng Nghynhadledd Flynyddol BAFA a gynhaliwyd ar 8 – 10 Ebrill 2024.