Mae gwyddonwyr wedi bragu cwrw gwenyn rheibus
16 Mai 2024
Mae microbiolegwyr yn bragu cwrw newydd gan ddefnyddio echdynion a geir mewn gwenyn rheibus o Namibia.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi defnyddio burum y bragwr a geir ym microbiom ymysgaroedd gwenyn mêl rheibus yn Namibia a'i ddefnyddio i ddatblygu cwrw crefft unigryw.
Yn wreiddiol, ymwelodd microbiolegwyr y Brifysgol â Namibia yn rhan o brosiect sy’n dod â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia at ei gilydd at ddibenion datblygiad amgylcheddol cynaliadwy. Bryd hynny, dechreuodd y gwyddonwyr ymddiddori yn y wenynen fêl Affricanaidd – a elwir hefyd yn wenynen reibus.
“Pan gyrhaeddon ni Gaerdydd, defnyddion ni furum y bragwr a dynnwyd o wenyn rheibus unigol, ynghyd â burum gwenyn mêl o Gymru, i wneud nifer o sypiau o gwrw.”
Grŵp o wyddonwyr sy’n gweithio yn Ysgol Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd sydd wedi datblygu’r cwrw. Mae prosiect Pharmabees yn ymchwilio i sut y gallai peillio planhigion penodol arwain at ddatblygu cyffuriau i drin archfygiau ac ymwrthedd i wrthfiotigau.
Mae’r prosiect wedi gosod llu o gychod gwenyn o amgylch Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â phlanhigion penodol, i annog y broses o gynhyrchu mêl o safon a chynorthwyo ymchwil yr Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol ar archfygiau.
Nod y Cwrw Rheibus yw cyfuno dealltwriaeth wyddonol o ficrobioleg ac ymchwil y Brifysgol ar gynnyrch sy’n ymwneud â gwenyn i greu rhywbeth unigryw. Bellach, mae’r gwyddonwyr yn chwilio am fragwr i gydweithio ag ef i gyflwyno cwrw y gwenyn rheibus i’r farchnad, a bydd yr elw yn helpu i gefnogi ymchwil ar wenyn yng Nghymru.
“Prosiect difyr ar ben ymchwil ehangach y Pharmabees yw Cwrw y Gwenyn Rheibus. Mae ein hymchwil ar wenyn yn dechrau dangos sut y gall mêl, cwyr gwenyn a chynnyrch eraill sy’n deillio o wenyn chwarae rhan wrth ddatrys rhai o heriau mwyaf y byd – gan gynnwys mynd i’r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau ac archfygiau."