Ewch i’r prif gynnwys

Roedd rhwydweithiau masnach Paganaidd-Gristnogol yn arfer cyflenwi ceffylau o dramor er mwyn cynnal y defodau aberthu ceffylau olaf yn Ewrop

17 Mai 2024

Argraff arlunydd sy’n dangos ceffyl mewn bedd
Ail-greu dyddodyn lle y bu aberth ceffyl yn Paprotki Kolonia, Gwlad Pwyl fodern. Credyd: Mirosław Kuzma

Byddai ceffylau yn croesi Môr y Baltig mewn llongau yn ystod Oes Ddiweddar y Llychlynwyr ac yn cael eu haberthu er mwyn cynnal defodau angladdol, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science Advances, mae astudiaethau ar weddillion ceffylau a gafodd eu darganfod yn Rwsia a Lithuania yn dangos iddyn nhw gael eu cludo dramor o Lychlyn gan ddefnyddio rhwydweithiau masnach eang a oedd yn cysylltu byd y Llychlynwyr â'r Ymerodraethau Bysantaidd ac Arabaidd.

Hyd yn hyn, roedd ymchwilwyr yn credu mai stalwyni o ffynonellau lleol bob amser oedd y ceffylau i’w haberthu. Ond mae'r canlyniadau hyn yn datgelu bod ceffylau o Sweden neu'r Ffindir fodern wedi teithio hyd at 1,500 cilomedr ar draws Môr y Baltig. Mae’r canfyddiadau hyn hefyd yn dangos nad oedd rhyw’r ceffyl o reidrwydd yn ffactor y tu ôl i’w dewis i’w haberthu, ac mae’r dadansoddiadau genetig yn dangos mai cesig oedd un o bob tri.

Cafodd techneg wyddonol o'r enw dadansoddiad isotopau strontiwm ei defnyddio ar ddannedd 74 o anifeiliaid i ddod o hyd i’w tarddle. Mae gan bridd, dŵr a phlanhigion gyfansoddiad cemegol sy'n adlewyrchu eu daeareg waelodol. Mae'r anifeiliaid yn amsugno’r llofnod cemegol wrth ei fwyta ac yn parhau ynghlwm wrth enamel caled eu dannedd, gan ganiatáu i archaeolegwyr olrhain hanes eu bywyd gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Defodau cyhoeddus hynod weladwy a symbolaidd ar draws Ewrop gynhanesyddol a phaganaidd oedd aberthu ceffylau, a’r bobl olaf i’w cynnal oedd llwythau'r Baltig, hyd at y 14eg ganrif OC. Yn y pydewau offrymu hwyrach y byddai sawl ceffyl, un ceffyl cyflawn neu rannau o anifeiliaid. Yn llawer o fynwentydd y Baltig cleddid ceffylau ar wahân i bobl, ond ceir llu o enghreifftiau o geffylau a orchuddid gan amlosgiadau dynol.

Dyma a ddywedodd y prif awdur Dr Katherine French, gynt o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Talaith Washington: “Mae’r ymchwil hon yn gwrthbrofi damcaniaethau blaenorol bod stalwyni a brynwyd yn lleol yn cael eu dewis yn unswydd i’w haberthu. O ystyried mynychder annisgwyl y cesig, credwn fod y bri a roddid ar yr anifail, sef ei fod yn dod o bell, yn ffactor pwysicach sy’n esbonio pam y cawsant eu dewis ar gyfer y ddefod hon.

“Roedd llwybrau masnach Oes y Llychlynwyr yn ymestyn o Wlad yr Iâ, Prydain, ac Iwerddon heddiw yn y Gorllewin yr holl ffordd i’r Ymerodraethau Bysantaidd ac Arabaidd yn y Dwyrain. Mae presenoldeb pwysigrwydd masnachwr mewn un bedd ceffyl yn amlygu rôl hynod bwysig ceffylau yn y rhwydweithiau masnach bywiog hyn.”

Dyma a ddywedodd y cyd-awdur Dr Richard Madgwick, sydd hefyd yn gweithio yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Mae’n amlwg bod llwythau Paganaidd y Baltig yn prynu ceffylau dramor gan eu cymdogion Cristnogol tra ar yr un pryd yn gwrthsefyll troi at eu crefydd. Mae’r ddealltwriaeth newydd hon o aberthu ceffyl yn amlygu’r berthynas ddeinamig a chymhleth rhwng cymunedau Paganaidd a Christnogol yr adeg honno.”

Cafodd y prosiect hwn gyllid gan gynllun Horizon 2020 yr UE, Gweinyddiaeth Gwyddoniaeth ac Addysg Uwch Gwlad Pwyl, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol, y Gymdeithas Archaeoleg Ganoloesol, Sefydliad Alexander von Humboldt, Deutsche Forschungsgemeinschaft a Phrifysgol Caerdydd.

https://www.youtube.com/watch?v=AbMbvXKv_AA

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.