Ewch i’r prif gynnwys

Athro yn derbyn cymrodoriaeth ymchwil fawreddog i drin a thrafod materion cymdeithasol pwysig

9 Mai 2024

A hand holding up the Earth

Mae Bahman Rostami-Tabar, Athro Gwyddor Penderfynu ar Sail Data yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil gan Sefydliad Gwybodaeth Uwch Montpellier ar Drawsnewidiadau (MAKIT) ym Mhrifysgol Montpellier.

Mae'r gymrodoriaeth, wedi’i hariannu gan MAKIT, yn dod ag ymchwilwyr o fri rhyngwladol o gefndiroedd disgyblaethol amrywiol yn y gwyddorau bywyd a pheirianneg, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau ynghyd. Eu nod yw arloesi ac ymdrin â’r thema ymchwil mewn ffordd greadigol, a’r thema yw: Gwyddoniaeth aflonyddgar i fynd i’r afael â heriau byd-eang.

Mae’r broses ddethol drylwyr ar gyfer y gymrodoriaeth yn croesawu ymgeiswyr o bob cwr o’r byd, gyda’r garfan bresennol yn cynnwys ymchwilwyr o Awstralia, Seland Newydd, Sweden, yr Ariannin, Mecsico, a’r Athro Rostami-Tabar o’r DU.

Gyda chefnogaeth hael gan MAKIT ac Ysgol Busnes Caerdydd, mae’r Athro Rostami-Tabar yn treulio chwe mis (Ionawr – Mehefin 2024) ym Montpellier, yn canolbwyntio ar ei gymrodoriaeth ymchwil.

Mae aelodau’r garfan yn cydweithio ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys:

  • sut mae gwyddor cynaliadwyedd yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig
  • rôl ansicrwydd wrth lywio polisïau a phenderfyniadau
  • y cysylltiad rhwng ynni, bwyd a dŵr
  • cydweithio rhyngddisgyblaethol
  • strategaethau ar gyfer trafod pynciau dadleuol

Yn rhan o’r profiad, bydd cyfle i fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio amrywiol, megis The Montpellier Process. Mae’r digwyddiad hwn yn dod â grwpiau o arbenigwyr o fri rhyngwladol ynghyd i drafod ffyrdd o gydweithio i ddatrys yr heriau mawr sy’n wynebu’r blaned a phobl, ac i ragweld argyfyngau, ar adeg pan fo’r Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi degawd o wyddoniaeth.

“Mae’r gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth o’m hymdrechion yn Rhagweld er Budd Cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar sut y gall rhagweld gwyddoniaeth lywio polisïau a’r broses gwneud penderfyniadau i fynd i’r afael â heriau mawr. Mae’r Gymrodoriaeth wedi bod yn brofiad trawsnewidiol, gan fy nghyflwyno i’r rhyngwyneb gwyddoniaeth-polisi-cymdeithas, ehangu fy safbwynt ymchwil, a rhoi cipolygon gwerthfawr i fynd i’r afael â materion cymdeithasol dybryd.”
Yr Athro Bahman Rostami-Tabar Athro Gwyddor Penderfyniad a Yrrir gan Ddata

Mae'r Athro Rostami-Tabar o'r farn y bydd y profiad hwn yn cynnig gwersi gwerthfawr y gall eu rhannu yn Ysgol Busnes Caerdydd, gan gynnwys dulliau o ymdrin â phynciau dadleuol a llywio’r rhyngwyneb gwyddoniaeth-polisi-cymdeithas.

Rhannu’r stori hon